Atebion Mentrus

Amdanom Ni

Yn cael ein hariannu gan y Loteri Fawr tan fis Rhagfyr 2019, mae Atebion Mentrus yn Rhaglen cefnogaeth gan gymheiriaid, sy’n defnyddio gwybodaeth a phrofiad ymarferwyr mentrau cymunedol sydd wedi’u sefydlu i gefnogi mentrau newydd.

Mae gan Atebion Mentrus rwydwaith o Gydlynwyr lleol ledled Cymru. Mae’r cydlynwyr hyn wedi’u lleoli mewn sefydliadau lletya trydydd sector ar draws Cymru ac yn darparu cefnogaeth ar lawr gwlad, gan gyfatebu mentrau cymunedol newydd ac uchelgeisiol, gan gynnwys eu Byrddau, staff a gwirfoddolwyr, i sefydlu Mentoriaid Cymheiriaid a all drosglwyddo’u gwybodaeth a’u dysgu.

Ochr yn ochr â’r gefnogaeth i gymheiriaid drwy fentora, gall Atebion Mentrus hefyd gynnig cyfle i fentrau cymunedol rwydweithio â’i gilydd a chymryd rhan mewn digwyddiadau dysgu, a mynychu ymweliadau safle i weld mentrau cymunedol ar waith. Mae dod i ddeall gweithrediadau menter, drwy gael y cyfle i ymweld a dysgu drosoch eich hun, yn allweddol o ran sefydlu a chynnal gweithgaredd newydd.

Gallwn gefnogi mudiadau mentrau cymunedol newydd a rhai sy’n datblygu mewn ystod eang o sectorau ledled Cymru. Cyn belled â bod y fenter yn cael ei harwain gan y gymuned, gallai weithredu mewn unrhyw sector neu faes.

I gymryd rhan, rhaid i fudiadau cymunedol fod â bwriad i fasnachu a chynhyrchu incwm o’u syniad am brosiect menter gymunedol.
Mae Atebion Mentrus yn anelu at fudiadau newydd neu rhai sy’n bodoli eisoes yn y sector gwirfoddol a chymunedol, yn enwedig grwpiau a chymunedau anodd eu cyrraedd nad ydynt wedi derbyn cefnogaeth i’w syniad am fenter gymunedol o’r blaen. Gallai ddarparu cymorth i’r canlynol:

  • Grwpiau cymunedol yn y camau cyntaf o sefydlu prosiect menter gymunedol, a allai fod wedi gwneud rhywfaint o brofi ar eu syniad, neu beidio
  • Rhai gyda syniad arloesol i ddatblygu cyfle menter newydd mewn cymuned yng Nghymru
  • Rhai sy’n edrych ar ystod o syniadau am fentrau cymunedol yn wyneb toriadau yn y sector cyhoeddus
  • Sefydliad sy’n bodoli eisoes ac sy’n edrych ar ffyrdd newydd, arloesol a blaengar o gynnal gwasanaethau / gweithgareddau cyfredol neu gaffael asedau sy’n eiddo i’r gymuned am y tro cyntaf
  • Grwpiau cwbl newydd sydd wedi dod at ei gilydd i achub adeilad neu wasanaeth lleol rhag cau a’i reoli fel menter gymunedol gynaliadwy