Perchnogaeth Gymunedol

print

Yn gynyddol, gofynnir i gymunedau gymryd tir neu adeiladau neu ystyried ei wneud ar draws Cymru.

Rydym yn cefnogi ystod o weithgareddau i helpu sefydliadau cymunedol i sicrhau bod eu prosiect asedau’n llwyddiannus.

Mae CYD Cymru yn un o 10 partner sy’n darparu rhaglen y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol.

Mae’r gronfa £150 miliwn yn bodoli i helpu cymunedau lleol ar draws y DU i gymryd rheolaeth dros asedau, amwynderau neu gyfleusterau sydd mewn perygl o gau – o barciau i dafarndai, lidos i lyfrgelloedd.

Gall grwpiau wneud cais am hyd at £250k drwy’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol i brynu neu brydlesu ased lleol neu i helpu i dalu am waith adnewyddu. Rhaid i’r holl arian a ddarperir drwy COF fod yn ‘gyfatebol’ o £1 am £1 o ffynonellau eraill. Darganfyddwch a yw’r gronfa’n addas ar gyfer eich sefydliad a sut y gallwn helpu trwy ymweld â thudalen rhaglen gymorth y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol ar https://mycommunity.org.uk/y-gronfa-perchnogaeth-gymunedol.

 

Fel rhan o’n gwaith ar asedau, rydym wedi datblygu Porth Asedau ar-lein. Mae’r adnodd hwn ar y we yn llywio’r grŵp drwy’r broses o gynnal trosglwyddo asedau oddi wrth corff cyhoeddus i berchnogaeth gymunedol. Cliciwch i gael mynediad i’r Porth Asedau.

Gallwn gefnogi eich prosiect asedau mewn amrywiaeth o ffyrdd:

Cyn i chi drosglwyddo’r ased

Eich helpu i gynllunio? Angen astudiaeth ddichonoldeb, cynllun busnes, neu gynllun strategol ar gyfer eich ased?

Eich helpu trwy’r broses drosglwyddo? Ystyriaethau ar gyfer fersiwn ddrafft eich prydles / telerau trosglwyddo? Help i asesu dichonoldeb nid atebolrwydd. Pa wybodaeth fydd ei hangen arnoch ar gyfer eich corff trosglwyddo?

Ar ôl y trosglwyddo 

Eich helpu i ddatblygu eich ased ym mherchnogaeth y gymuned mewn ffordd gynaliadwy? Angen lleihau costau rhedeg? Angen adolygu eich gweithrediadau? Angen mireinio eich strategaeth cynhyrchu incwm? Marchnata eich ased ym mherchnogaeth y gymuned.

Trwy ddefnyddio ein Cronfa CYD Cymru o ymarferwyr a datblygwyr asedau profiadol, gallwn roi cymorth i chi y tu allan i’n Rhaglenni Presennol fel Gwasanaeth Ymgynghori

Rhaglen Trosglwyddo Asedau Cymunedol

Roeddym yn darparu cymorth yn uniongyrchol i ymgeiswyr a grwpiau arobryn sy’n cymryd rhan yn Rhaglen Trosglwyddo Asedau Cymunedol 2 (CAT2) y Loteri Fawr o dan gontract cymorth gyda’r Loteri Fawr. Roedd y cymorth hwn yn helpu ymgeiswyr i baratoi eu cynlluniau prosiect gan osod eu hachos busnes a’u cynlluniau ar gyfer y safle ar ôl y trosglwyddo. Mae mentora parhaus ar ôl derbyn dyfarniad ariannu CAT2 yn helpu grwpiau i ddatblygu’r ased i’w botensial lawn, gan sicrhau cynaliadwyedd hir dymor.

Cewch wybodaeth bellach am y grwpiau roeddym yn gweithio gyda nhw fel rhan o gontract cymorth y Loteri Fawr yma.

Darllenwch flog am ein hymweliad â Sefydliad Glyn Ebwy fel rhan o gontract cymorth rhaglen CAT2.