Contact Us

English    
Youth

Cysylltu â Ni

Cymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru
35b Heol Albert
Penarth, Bro Morgannwg CF64 1BY

Ffon029 2019 0260
Ffacs029 2019 0258
E bost info@dtawales.org.uk

CYFARWYDDIADAU I GYMDEITHAS YMDDIRIEDOLAETHAU DATBLYGU CYMRU

AR DRÊN

O ‘Cardiff Central’ cymrwch unrhyw drên i Benarth. Ewch allan o orsaf Penarth – trowch i’r dde – i fyny’r ramp ac i’r dde dros Bont y Rheilffordd. Wrth y goleuadau traffig ewch yn syth ymlaen (heibio’r Llyfrgell ac Oriel Washington) tuag at ganol y dref. Wrth y gylchfan wrth Dŵr y Cloc ewch yn syth ar draws er mwyn mynd ar Heol Albert cerddwch i fyny’r bryn am 70 llath gan groesi Stryd Plassey ac mae ein swyddfeydd ar gornel y Stryd, uwchben y siop flodau.

O’R M4 GORLLEWIN/DWYRAIN

Gadewch yr M4 wrth Gyffordd 33 a dilynwch ffordd ddeuol yr A4232 (Bae Caerdydd /ffordd gyswllt Grangetown). Dilynwch yr arwyddion i Fae Caerdydd /Penarth a dewch oddi ar y ffordd lle mae arwydd yn cyfeirio i Benarth/Grangetown. Dilynwch yr arwyddion i Benarth ar yr A4055. Dewch at gylchfan Cogan (cylchfan Tesco). Trowch i’r chwith ar Heol Penarth/ Windsor (A4160). Ewch yn syth ymlaen ar y gylchfan nesaf gan fynd am ganol tref Penarth. Ychydig wedi’r siopau yn y brif stryd fe welwch gylchfan fechan gyda thŵr cloc yn eich wynebu. Trowch i’r chwith yma ar Heol Albert ac ewch i fyny’r rhiw am 100 llath a bydd ein swyddfeydd ar gornel Stryd Plassey a Heol Albert uwchben siop trin gwallt ‘Oscars’. Parciwch yn Heol Albert neu yn un o’r strydoedd cefn sydd wrth ymyl. Mae mynedfa’r swyddfa yn Heol Albert i fyny’r ddihangfa dân tu cefn i Siop Trin Gwallt Oscars ac mae’r fynedfa drws nesaf i siop flodau Poppies. Ewch drwy’r gât haearn ac i fyny’r ddihangfa dân fetel a chanwch y gloch.

O GANOL DINAS CAERDYDD

O’r Orsaf Ganolog neu waelod Stryd y Santes Fair neu ben uchaf Stryd Bute dilynwch yr arwyddion am Heol Penarth (A4160), gan ei dilyn yr holl ffordd at Gylchfan Cogan. Yna trowch i’r chwith ar Heol Penarth/Windsor (A4160). Ewch yn syth ar draws ar y gylchfan nesaf gan fynd tuag at ganol tref Penarth.  Yn union wedi’r siopau yn y brif stryd fe welwch chi gylchfan fechan gyda thŵr cloc yn eich wynebu. Trowch i’r chwith yma ar Heol Albert ac ewch i fyny’r rhiw am 100 llath ac fe welwch ein swyddfeydd ar gornel Stryd Plassey a Heol Albert uwchben siop trin gwallt ‘Oscars’. Parciwch yn Heol Albert neu yn un o’r strydoedd cefn sydd wrth ymyl. Mae’r fynedfa i’n swyddfa o Heol Albert i fyny’r ddihangfa dân sydd wrth gefn “Oscars Hairdressers” ac mae’r fynedfa drws nesaf i siop flodau “Poppies”. Ewch drwy’r gât haearn ac i fyny’r ddihangfa dân fetel a chanwch y gloch.

O DDWYRAIN CAERDYDD

Naill ai dilynwch yr arwyddion i Benarth neu Heol Penarth neu dilynwch yr arwyddion i Fae Caerdydd a Neuadd y Sir Caerdydd (A2434 – ffordd gysylltiol ganolog), gan fynd heibio i Neuadd y Sir ar y dde ac ar draws y dŵr. Dilynwch yr arwyddion i Benarth trwy dwnnel Cysylltiol Butetown ar draws yr Afon Taf a dilynwch yr arwyddion i Ganol Tref Penarth. Dewch at gylchfan Cogan (cylchfan Tesco). Trowch i’r chwith ar Heol Penarth/ Windsor (A4160). Ewch yn syth ymlaen ar y gylchfan nesaf gan fynd tuag at ganol tref Penarth. Union wedi’r siopau yn y brif stryd fe welwch chi gylchfan fechan gyda thŵr cloc yn eich wynebu. Trowch i’r chwith yma ar Heol Albert ac ewch i fyny’r rhiw am 100 llath ac fe welwch ein swyddfeydd ar gornel Stryd Plassey a Heol Albert uwchben siop trin gwallt ‘Oscars’. Parciwch yn Heol Albert neu yn un o’r strydoedd cefn sydd wrth ymyl. Mae’r fynedfa i’n swyddfa o Heol Albert i fyny’r ddihangfa dân sydd wrth gefn “Oscars Hairdressers” ac mae’r fynedfa drws nesaf i siop flodau “Poppies”. Ewch drwy’r gât haearn ac i fyny’r ddihangfa dân fetel a chanwch y gloch.

O’R A470 A’R GOGLEDD

Dilynwch yr A470 a Heol y Gogledd i ganol Caerdydd, gan fynd heibio i Gastell Caerdydd ar y dde. Trowch i’r chwith wrth y goleuadau traffig gan fynd ar y Stryd Fawr, sydd wedi hynny’n mynd yn Stryd y Santes Fair. Wrth waelod Stryd y Santes Fair trowch i’r dde a dilynwch yr arwyddion i Benarth. Dewch at gylchfan Cogan (cylchfan Tesco). Trowch i’r chwith i fynd ar Heol Penarth/ Windsor (A4160). Ewch yn syth ar draws y gylchfan nesaf gan fynd tuag at ganol tref Penarth. Yn union wedi’r siopau yn y brif stryd fe welwch chi gylchfan fechan gyda thŵr cloc yn eich wynebu. Trowch i’r chwith yma ar Heol Albert ac ewch i fyny’r rhiw am 100 llath ac fe welwch ein swyddfeydd ar gornel Stryd Plassey a Heol Albert uwchben siop trin gwallt ‘Oscars’. Parciwch yn Heol Albert neu yn un o’r strydoedd cefn sydd wrth ymyl. Mae’r fynedfa i’n swyddfa o Heol Albert i fyny’r ddihangfa dân sydd wrth gefn “Oscars Hairdressers” ac mae’r fynedfa drws nesaf i siop flodau “Poppies”. Ewch drwy’r gât haearn ac i fyny’r ddihangfa dân fetel a chanwch y gloch

Ffordd arall neu ffordd well os yw’n adeg prysur o ran y traffig o’r A470 fyddai i adael yr A470 wrth y gyffordd â’r M4 (M4 Cyffordd 32). Yna wrth Gylchfan Tongwynlais/Whitchurch dilynwch yr arwyddion ar gyfer M4 Gorllewin ac ewch oddi ar yr M4 wrth y gyffordd nesaf (M4 Cyffordd 33) a dilynwch yr arwyddion ar gyfer Bae Caerdydd / Penarth.