Rydym yn gwahodd ceisiadau i wneud cais am becyn cymorth i gefnogi pump o hybiau bwyd newydd yng Nghymru i ffynnu

dyddiad 27.10.2021

Mae Open Food Network, Cymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru a Chynghrair Gweithwyr y Tir wedi ymuno i sefydlu pum canolfan fwyd fentrus a chynaliadwy mewn cymunedau ledled Cymru i ddarparu bwyd sy’n dda i bobl, yn dda i’r amgylchedd ac yn dda i fusnesau lleol drwy hyrwyddo cadwyni cyflenwi byr. Mae’r cyfle hwn yn rhan o brosiect partneriaeth Mannau Gwyrdd Gwydn, gwerth £1.27m sy’n peilota systemau bwyd amgen ac a adleoliwyd trwy brofi’r hyn y gall pobl ei wireddu gyda’i gilydd mewn mannau
gwyrdd, trwy chwe maes gwaith. Mae Mannau Gwyrdd Gwydn wedi derbyn cyllid trwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – y Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, sy’n cael ei gyllido gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. Mae croeso i sefydliadau anfon ceisiadau am becyn cymorth newydd sy’n rhedeg hyd at fis Mehefin 2023 i helpu pum hwb bwyd i ffynnu. Os ydych yn gweithio yng Nghymru, a byddech yn hoffi sefydlu hwb bwyd newydd dan arweiniad y gymuned, hwyrach y byddwch yn gymwys i wneud cais. Rydym yn cael ein cyllido trwy’r Rhaglen Datblygu Gwledig er mwyn helpu sefydlu pum Hwb Bwyd yng
Nghymru. Rydym yn cynnig:
• Mynediad at gyllid i gefnogi amser staff a grant i dalu am brynu cyfarpar.
• Pecyn cymorth a hyfforddiant rheolaidd hyd at fis Mehefin 2023 i’ch helpu chi a’ch sefydliad
ddatblygu hwb bwyd effeithiol a hyfyw.
• Cymorth arbenigol mewn perthynas â chynlluniau busnes, cyllid, marchnata, ymgysylltu â’r gymuned
a mwy.
Cymhwysedd Mae’r cynllun ar agor i geisiadau gan unrhyw grŵp cymunedol neu sefydliad neu fenter gymunedol sy’n cychwyn, neu  sy’n datblygu neu sefydledig, sydd â chynnig i ddatblygu Hwb Bwyd cynaliadwy yng Nghymru. Bydd y pum hwb bwyd yn defnyddio’r Rhwydwaith Bwyd Agored (RhBA) fel fframwaith cychwynnol ar gyfer eu mentrau. Mae’r RhBA yn galluogi amrywiaeth eang iawn o fodelau gyda thema gyffredin o gysylltu amrediad o gynhyrchwyr gwahanol â siopwyr a phrynwyr trwy siop ar-lein a lleoliad dosbarthu/cydlynu
canolog.
Mae nifer o ffurfiau gwahanol ar gyfer hybiau bwyd, megis marchnad ffermwyr ar-lein, cydweithfa fwyd,
grŵp prynu, banc bwyd, neu neuadd ysgol neu eglwys fel lleoliad dros dro ar gyfer hwb bwyd bob wythnos,
ond nid model sefydlog yw hwn, a byddwn hefyd yn croesawu unrhyw gynigion newydd, mentrus ac
arloesol. Bydd gan y pum hwb bwyd fynediad at gymorth holl bartneriaid y prosiect, gan gynnwys mynediad at
adnoddau dysgu a chymorth y RhBA. I ddysgu mwy ac i gyflwyno cais, ewch i wefan y Rhwydwaith Bwyd Agored:
https://about.openfoodnetwork.org.uk/mannau-gwyrdd-gwydn-gwneud/
Am fwy o wybodaeth am brosiect ehangach Mannau Gwyrdd Gwydn, a chyfleoedd eraill i gymunedau ddod
ynghyd fel rhan o’r prosiect, ewch i wefan Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol:
https://www.farmgarden.org.uk/mannau-gwyrdd-gwydn

print