Asedau Ni: Cefnogi cymunedau i sicrhau dyfodol y mannau sy’n bwysig iddynt
Lansio 1 Hydref 2026
Gall tafarn, neuadd bentref, siop neu goetir cymunedol fod yn llawer mwy na dim ond adeilad neu ddarn o dir. Maent yn fannau lle mae pobl yn cyfarfod, gwasanaethau’n cael eu darparu, atgofion yn cael eu creu a bywyd lleol yn digwydd – gan greu cyfleoedd i bobl gysylltu a theimlo’n rhan o’u cymuned, cefnogi llesiant, a helpu cymunedau i gadw gwerth yn lleol a siapio eu dyfodol eu hunain.
Ledled Cymru, mae cymunedau’n dod o hyd i ffyrdd o gymryd asedau lleol pwysig o dan eu gofal a’u sicrhau ar gyfer y dyfodol, gan helpu i gadw gwasanaethau, cyfleusterau a chyfleoedd hanfodol ar gael yn lleol am flynyddoedd i ddod. Ond mae cymryd ased dan eich gofal yn gam mawr, sy’n dod â chwestiynau ymarferol a heriau yn ei sgil.
Darparu’r arbenigedd, y cymorth a’r adnoddau ar gyfer asedau dan arweiniad cymunedau.
Gan lansio ar 1 Hydref, mae Asedau Ni (sy’n golygu “ein hasedau”) yn wasanaeth cymorth cenedlaethol i gymunedau sy’n edrych i gymryd asedau lleol dan eu gofal, eu diogelu a’u rheoli (a elwid gynt yn Wasanaeth Cymorth Cydberchnogaeth Gymunedol – Collaborative Community Ownership Support Service).
Dan arweiniad CYD Cymru ac wedi’i ddarparu mewn partneriaeth â Coalfields Regeneration Trust, Building Communities Trust a’r Institute of Welsh Affairs, mae Asedau Ni yn dod â chymorth ymarferol, gwybodaeth arbenigol a dysgu ar y cyd at ei gilydd i helpu cymunedau i lywio eu taith gydag ased.
O siopau a thafarnau cymunedol i neuaddau pentref, canolfannau plant, mannau celfyddydol, tir amaethyddol a choetiroedd, bydd y gwasanaeth yn helpu cymunedau i wneud y gorau o’r asedau hyn a chefnogi eu cynaliadwyedd yn y tymor hir.
Canolfan ganolog ar gyfer cymorth ymarferol
Gall cymryd ased dan eich gofal fod yn gyffrous, ond gall hefyd deimlo fel bod llawer i’w ystyried. Ble ydych chi’n dechrau? Beth sydd angen i chi ei ystyried? Sut ydych chi’n gwneud ased yn gynaliadwy yn ariannol ac yn amgylcheddol? Beth am yr adeilad ei hun, llywodraethu, cyllid neu reoli o ddydd i ddydd?
Mae gan Asedau Ni dîm penodol i helpu cymunedau i weithio drwy’r cwestiynau hyn.
Yn ogystal â chymorth wedi’i deilwra, bydd Asedau Ni yn darparu llyfrgell lawn o adnoddau ymarferol, a fydd ar gael ar ein gwefan yn fuan, gan ddod â gwybodaeth a phrofiad defnyddiol ynghyd mewn un lle.
I gymunedau sy’n cymryd adeiladau dan eu gofal, bydd Rheolwr Cyfleusterau penodol yn cynnig cymorth arbenigol gyda’r agweddau ymarferol ar reoli a chynnal adeiladau cymunedol.
Bydd digwyddiadau a chyfleoedd dysgu hefyd yn cael eu cynnal drwy gydol y rhaglen, gan greu lle i bobl sy’n ymwneud ag asedau cymunedol rannu profiadau, gofyn cwestiynau a dysgu o’r hyn y mae eraill wedi’i wneud.
Ac i gymunedau nad ydynt yn siŵr ble i ddechrau, bydd Asedau Ni yn darparu pwynt cyswllt clir – rhywun i’ch helpu i ddod o hyd i’r wybodaeth gywir, deall pa gymorth sydd ar gael a gweithio allan beth allai eich cam nesaf fod.
Cymunedau’n dysgu oddi wrth gymunedau
Wrth wraidd Asedau Ni mae syniad syml: cymunedau sy’n dysgu orau gan gymunedau eraill.
Mae cyfoeth cynyddol o brofiad ledled Cymru gan bobl sydd eisoes wedi cymryd asedau lleol dan eu gofal ac yn eu rheoli. Bydd Asedau Ni yn helpu i ddod â’r profiad hwnnw ynghyd, gan gysylltu cymunedau, ymarferwyr a sefydliadau fel y gellir rhannu gwybodaeth a dysgu gwersi.
Yn ogystal â chymorth ymarferol, bydd y gwasanaeth yn helpu i adeiladu rhwydwaith cryfach o amgylch perchnogaeth gymunedol – gan ei gwneud yn haws i bobl ddod o hyd i wybodaeth, dysgu oddi wrth ei gilydd a deall y cyfleoedd sydd ar gael iddynt.
Yn y pen draw, mae Asedau Ni yn ymwneud â helpu cymunedau i ddatblygu’r wybodaeth, yr hyder a’r gallu i wneud penderfyniadau am yr asedau o’u cwmpas – gan gefnogi cymunedau cryfach a mwy gwydn a helpu i gadw gwerth yn lleol.
Lansio’n swyddogol yng Nghynhadledd Hydref CYD Cymru 2026 (20 Hydref, Tŷ Pawb, Wrecsam)
Bydd ein sesiwn, “Asedau Ni: Cydweithio i Warchod yr Asedau sydd eu Hangen ar Ein Cymunedau”, yn cyflwyno’r gwasanaeth newydd, y cymorth sydd ar gael a sut y gall cymunedau gymryd rhan. Bydd yn gyfle i archwilio’r heriau a’r cyfleoedd sy’n ymwneud ag asedau cymunedol, clywed mwy am y cymorth ymarferol sydd ar gael, a nodi dechrau pennod newydd o gymorth i gymunedau ledled Cymru. Archebwch eich lle nawr!
Mae Asedau Ni yn lansio ar 1 Hydref. Bydd rhagor o wybodaeth, adnoddau a manylion am sut y gall cymunedau gael mynediad at gymorth ar gael yn fuan.
Mae croeso i chi gysylltu â ni drwy info@dtawales.org.uk os hoffech drafod Asedau Ni ymhellach.