Beth rydym yn ei wneud
Cysylltu Cymunedau: Rydym yn trefnu digwyddiadau ac yn cyfeirio pobl i arfer da yng nghyswllt menter gymunedol ac asedau ym mherchnogaeth y gymuned o bob cwr o’r Deyrnas Unedig.
Darparu cymorth lefel sylfaenol: Rydym yn rhoi cymorth i’n Haelodau ac rydym yn Cyflenwi ystod o raglenni cymorth gan gymheiriaid i’r Trydydd sector yng Nghymru ac yn Helpu i drafod cytundebau gwell ar gyfer cyfleustodau megis contractau nwy a thrydan fel bod sefydliadau cymunedol yn talu llai.
Atebion Mentrus: Rydym yn helpu sefydliadau cymunedol i sefydlu a rhedeg mentrau cymunedol
Adfywio Cymru: Helpu cymunedau i fynd i’r afael â’r achosion a chynnig datrysiadau ar gyfer newid hinsawdd
Cynhyrchu adnoddau ar gyfer y sector: Megis ein Porth Asedau a’n Hofferyn Gwiriad Iechyd Addas i Bwrpas DTA
Cefnogi Datblygu Polisi: Rydym yn eiriolwr ar ran symudiad yr ymddiriedolaeth ddatblygu a’r trydydd sector yng Nghymru
Cyflenwi gwasanaethau ymgynghori: Rydym yn cynghori cymunedau i ymgymryd ag asedau ym mherchnogaeth y gymuned megis tir ac adeiladau a’u datblygu yn dilyn trosglwyddo asedau o gyrff cyhoeddus neu gyrff preifat
Dysgwch fwy am yr hyn rydym yn ei wneud yn yr adran Ein Gwaith.