Am Lansio yn fuan: Gwasanaeth Cymorth Cenedlaethol ar gyfer Perchnogaeth Gymunedol ledled Cymru
Mae CYD Cymru yn falch o gyhoeddi ein bod wedi sicrhau cyllid drwy raglen “Supporting Great Ideas” Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i gyflwyno’r Gwasanaeth Cymorth Perchnogaeth Gymunedol Cydweithredol (GCCPC).
Mae GCCPC yn wasanaeth cymorth arbenigol sy’n helpu cymunedau yng Nghymru i gymryd drosodd, diogelu a rheoli’r asedau lleol sy’n bwysig iddynt – o dir ac adeiladau i fannau cymunedol hanfodol. Wrth wneud hynny, bydd yn cefnogi mwy o wydnwch lleol, yn helpu cymunedau i ddiogelu lleoedd gwerthfawr, ac yn cyfrannu at adeiladu a chadw cyfoeth o fewn cymunedau.
O siopau a thafarndai i ganolfannau plant, neuaddau pentref, mannau celf, tir fferm a choetiroedd, mae’r asedau hyn yn chwarae rhan hanfodol wrth lunio lles, hunaniaeth a ffyniant lleol hirdymor. Wrth i’r galw am berchnogaeth dan arweiniad cymunedau barhau i dyfu ledled Cymru, bydd GCCPC yn helpu i osod y seiliau ar gyfer cymunedau sy’n fwy gwydn ac sy’n berchen ar asedau, rhwydwaith cryfach o ddysgu rhwng cyfoedion a rhanddeiliaid, a llais mwy cydgysylltiedig dros berchnogaeth gymunedol ar draws ein cenedl.
Bydd GCCPC yn gweithredu fel system gydgysylltiedig o gymorth ar gyfer perchnogaeth gymunedol. Bydd yn cynnig cymorth ymarferol a phwrpasol, adnoddau, a chyfleoedd dysgu i helpu cymunedau i lywio perchnogaeth gymunedol, tra hefyd yn gweithredu fel canolfan gyffredin o wybodaeth a phrofiad.
Wedi’i gyflwyno ar y cyd gan CYD Cymru, ynghyd â’r Coalfields Regeneration Trust (CRT), Building Communities Trust (BCT), a’r Institute of Welsh Affairs (IWA), mae GCCPC yn dod â dros ddegawd o brofiad ynghyd mewn cefnogi cymunedau Cymru i gymryd drosodd a rheoli asedau lleol, wedi’i wreiddio mewn ymrwymiad hirsefydlog i alluogi cymunedau i gefnogi ei gilydd trwy ddysgu a phrofiad a rennir. Wrth galon y rhaglen mae’r gred mai cymunedau sy’n dysgu orau oddi wrth gymunedau eraill, gyda phrofiad a chydweithio yn sylfaen i’r dull gweithredu.
Rydym yn recriwtio dau rôl i gefnogi cyflwyno GCCPC:
Cydlynydd GCCPC: 4 diwrnod yr wythnos – Arwain ar gyflwyno a chydlynu’r rhaglen o ddydd i ddydd.
Cynghorydd Rheoli Cyfleusterau (Adeiladau Cymunedol): 3 diwrnod yr wythnos – Cefnogi grwpiau cymunedol gyda’r offer a’r canllawiau ymarferol sydd eu hangen i reoli a chynnal adeiladau cymunedol.