Cynhadledd yr Hydref 2025: Dathlu Cymuned a Chydweithio ym Mhort Talbot

Cawsom amser gwych ym Mhort Talbot ar gyfer ein Cynhadledd Hydref. Er i’r rhagolygon ragweld glaw, ni ddaeth hynny i fodolaeth – yn hytrach, cawsom fore clir a llawn haul i gychwyn y diwrnod. Ein lleoliad oedd y New Plaza, sinema gynt sydd bellach wedi’i hadfer er defnydd cymunedol ar ôl gwaith adnewyddu gwerth £65 miliwn.

Roedd cymysgedd o aelodau a phartneriaid CYD Cymru yn bresennol ar y diwrnod, oll wedi ymgynnull i rwydweithio, cymdeithasu a dysgu gyda’i gilydd. Cynhaliwyd gweithdai drwy’r dydd ar ystod o bynciau:

  • Defnyddio gwerthoedd i lywio ein penderfyniadau strategol a’n dulliau gweithio

  • Clybiau Ceir Trydan – astudiaeth achos o gydfenter gymdeithasol

  • Lansio ein Hwb Adeiladau Cymunedol

  • Astudiaeth achos gan Wirfoddolwyr Cymunedol Splott a lansio ein Hadnodd Siopau Elusen

  • Cymunedau’n cymryd meddiant o adeiladau hanesyddol gyda’r Architectural Heritage Fund

  • Cyngor a chanllawiau ariannu gyda’r Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol

Roedd hi’n wych cael cyfle i sgwrsio ag aelodau hirsefydlog, cwrdd ag aelodau newydd, a chlywed sŵn y sgwrsio’n llenwi’r lle drwy’r dydd – rydym eisoes yn edrych ymlaen at yr un nesaf!

Y diwrnod wedyn, daethom ynghyd eto fel tîm staff i drafod y diwrnod prysur a chynllunio ymlaen ar gyfer ein rhaglenni a’n blaenoriaethau i gefnogi grwpiau ac aelodau ledled Cymru. Cawsom drafodaethau hynod gynhyrchiol am gyfleoedd ac anghenion yn y sector, ymgyrchoedd posibl, ac wrth gwrs, etholiadau’r Senedd sydd ar y gorwel.

Edrychwch ar y lluniau o’r diwrnod!

2
3