Rhaid i’r cymunedau yr ydym yn byw ynddynt fod yn lleoedd diogel i bob un ohonom, waeth beth fo’n lliw, hil, crefydd neu gefndir. Mae cymunedau grymus a gwydn yn gryfach oherwydd eu hamrywiaeth, a rhaid inni sefyll yn unedig yn erbyn y rhai a fyddai’n ceisio ein rhannu. Nid oes lle i gasineb a hiliaeth yn ein pentrefi, ein trefi a’n dinasoedd. Rydym ni yng Nghymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru wedi’n brawychu gan y trais hiliol a gwrth-Fwslimaidd sydd wedi digwydd yn y DU yn y dyddiau diwethaf, ac rydym am anfon ein cefnogaeth a’n cydsafiad at unrhyw un y mae’n effeithio arno. Gwyddom y bydd llawer o’n haelodau’n cael eu hysgwyd gan y digwyddiadau hyn, a byddwn yn gwneud ein gorau glas i ddarparu cefnogaeth – ymarferol neu emosiynol – i unrhyw aelod sydd eisiau estyn allan. Rydym yn falch iawn o fod wedi llofnodi’r datganiad hwn o gydsafiaeth ac undod gan Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru.

Nobody_is_Illegal_!_(43445771951)