Diwrnod i ddathlu gwaith anhygoel mentrau cymdeithasol ledled Cymru

Heddiw, rydyn ni’n tynnu sylw at y mentrau cymdeithasol anhygoel rydyn ni’n gweithio gyda nhw ledled Cymru, gan gynnwys ein haelodau gwerthfawr DTA Cymru a’r sefydliadau ysbrydoledig a gefnogir trwy ein rhaglen Egin . Mae’r grwpiau hyn yn trawsnewid eu cymunedau, yn creu cyfleoedd, yn mynd i’r afael â heriau lleol, ac yn adeiladu Cymru fwy cydnerth. Mentrau cymdeithasol yw curiad calon pŵer cymunedol, ac rydym yn cael ein hysbrydoli’n barhaus gan eu gwaith ac yn falch o gefnogi eu teithiau.

Cyfleoedd Arloesol i Fentrau Cymdeithasol

Er mwyn cefnogi’r gwaith o rymuso mentrau cymdeithasol, rydym wrth ein bodd ein bod yn cynnig y Cyfleoedd Connection Trailblazers fel rhan o’n rhaglen Connectors UK. Cynlluniwyd y fenter hon i helpu mentrau cymdeithasol i dyfu, arloesi, a chryfhau eu heffaith gymunedol.

Mae’r cyfle hwn yn cynnwys:

  • Grant anghyfyngedig o £20,000
  • Cefnogaeth arbenigol ar gyfer arweinyddiaeth, rhwydweithio cymheiriaid, a mesur effaith

Os ydych yn fenter gymdeithasol gydag uchelgeisiau mawr, rydym yn eich annog i wneud cais. Gadewch i ni barhau i dyfu pŵer cymunedol yng Nghymru gyda’n gilydd!

Darganfyddwch fwy am gymhwysedd a gwnewch gais gan ddefnyddio’r ddolen isod.

Cymerwch gip ar y gwaith anhygoel y mae dim ond llond llaw o’r sefydliadau hyn wedi bod yn ei wneud…

  • Lansiodd Strategaeth Bryncynon lyfr coginio cymunedol, yn amlygu partneriaethau a chreadigrwydd – a ryseitiau blasus!
  • Parteriaeth Ogwen – Mae Beics Ogwen yn cefnogi trafnidiaeth gynaliadwy a lles yn Nyffryn Ogwen gyda llogi beiciau, atgyweirio, a sesiynau beicio hygyrch.
  • Mae Prosiect Dynion Plant Dewi yn grymuso tadau Penfro trwy weithgareddau bondio, gan amlygu eu rôl deuluol a chymunedol hanfodol.
  • Mae KidCare4U yn ymgysylltu cymunedau lleiafrifoedd ethnig Casnewydd â gweithredu ar yr hinsawdd trwy weithdai tyfu, coginio a natur.
  • Mae CITC yn defnyddio chwaraeon, addysg a hyfforddiant i uno De-ddwyrain Cymru, gan wella iechyd a chydlyniant cymunedol.
  • Mae Mind Our Future Gwent gan Promo Cymru yn grymuso pobl ifanc i lunio dyfodol gwydn, iach yn feddyliol.