Diweddariad Diogelwch Data CYD Cymru: Digwyddiad CRM Beacon
Ynghyd â llawer o sefydliadau eraill, mae CYD Cymru wedi’i effeithio gan y toriad data a ddigwyddodd ddydd Mercher 28 Gorffennaf yn Beacon CRM, ein darparwr meddalwedd CRM (system rheoli cwsmeriaid).
Beth ddigwyddodd?
Ddydd Mercher 29 Gorffennaf 2026, daeth Beacon, ein darparwr meddalwedd CRM, yn ymwybodol y gallai fod wedi profi digwyddiad seiberddiogelwch. Fe wnaethant ymgysylltu ar unwaith ag arbenigwyr seiberddiogelwch allanol i helpu i ymchwilio i’r digwyddiad ac i ddiogelu eu systemau. Cawsom wybod am hyn gan Beacon ddydd Llun 3 Awst.
Pa ddata sydd wedi’i effeithio?
Nid yw Beacon wedi gallu cadarnhau i ni eto pa ddata sydd wedi’i beryglu, felly, ar eu cyngor nhw, rydym yn gweithio ar y sail ofalus y gallai rhywun fod wedi cael mynediad at ein holl gofnodion.
Mae’r data personol sydd gennym yn cynnwys:
- Enwau a chyfeiriadau e-bost
- Lle y’u darparwyd, cyfeiriadau a rhifau ffôn
- Nifer fach o anfonebau cyflenwyr a allai gynnwys enwau personol, cyfeiriadau a manylion banc
Yn bwysig, nid yw manylion cardiau wedi’u peryglu, ac nid yw’r taliadau a gymerwn ar gyfer aelodaeth drwy ein hintegreiddiad Stripe wedi’u heffeithio.
Beth mae Beacon wedi’i wneud?
Mae Beacon wedi rhoi mesurau ar waith ar unwaith, gan gynnwys:
- Cynnal ymchwiliad fforensig trylwyr gyda’u harbenigwyr seiberddiogelwch allanol er mwyn deall yn union beth sydd wedi digwydd
- Gweithio gyda’r heddlu a rheoleiddwyr perthnasol, yn ôl yr angen
- Parhau i fonitro’r we dywyll ar- ein, fel sy’n arfer safonol mewn digwyddiadau o’r math hwn. Hyd yma, nid ydynt wedi gweld unrhyw gyfeiriad at y digwyddiad hwn nac unrhyw ddata sy’n gysylltiedig ag ef.
Beth yw’r risg?
Y prif risgiau i’n rhwydwaith yn sgil y toriad data hwn yw:
- E-byst, galwadau neu negeseuon testun sbam, gwe- wydo neu sgam sy’n honni eu bod yn dod gan CYD Cymru neu sefydliad cyfreithlon arall
- Cyfathrebu digroeso
- Camddefnyddio gwybodaeth bersonol
Byddwch yn arbennig o wyliadwrus wrth dderbyn unrhyw alwadau, e- yst neu negeseuon testun.
Ni fyddwn byth yn cysylltu â chi i ofyn am daliadau ychwanegol, ac nid yw ein manylion banc wedi newid.
Os oes gennych unrhyw bryderon ar ôl derbyn e-ost neu unrhyw fath arall o gyfathrebiad, gallwch gysylltu â ni ar info@dtawales.org.uk, a byddwn yn cadarnhau a yw’n ddilys.
Am ragor o wybodaeth, gweler datganiad Beacon.