Adnoddau Caffael Cyhoeddus
Mae caffael bwyd y sector cyhoeddus yng Nghymru werth tua £84.7 miliwn y flwyddyn. Un o flaenoriaethau allweddol strategaeth Economi Sylfaenol Llywodraeth Cymru yw galluogi mwy o gyflenwyr lleol, yn enwedig cyflenwyr bach, i sicrhau cyfran fwy o gontractau bwyd cyhoeddus. Ar hyn o bryd dim ond 23% o’r bwyd a gaffaelir sydd o darddiad Cymreig, ac mae hynny’n golygu cyfleoedd enfawr posibl i gynhyrchwyr Cymru. Mae hyn yn amrywio’n fawr ar draws gwahanol gategorïau. Er enghraifft, dim ond 6% o ffrwythau a llysiau. Hyd yn oed mewn categorïau lle mae canran bwyd Cymru yn eithaf uchel mae cyfleoedd o hyd; er enghraifft, byddai cynyddu cyfran y cig a’r dofednod o 76% i 80% yn chwistrellu £330,000 ychwanegol i fusnesau Cymru.
Yn hanesyddol, mae ffermwyr a thyfwyr wedi canfod bod y prisiau a delir yn y farchnad gaffael gyhoeddus yn isel, ac mae’n wir bod awdurdodau dan bwysau i flaenoriaethu prisiau isel yn eu penderfyniadau prynu. Fodd bynnag, mae hynny’n dechrau newid. Mae’n rhaid i awdurdodau lleol feddwl fwy am sut mae eu polisïau caffael yn bodloni amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, Net Sero, yn cefnogi economïau lleol a pholisïau eraill. Mae’r meini prawf hyn yn dod yn bwysicach mewn perthynas â phenderfyniadau prynu, sydd yn ei dro yn agor y drws i brisiau mwy hyfyw ar gyfer ffermydd lleol llai. Er enghraifft, mae prosiect Llysiau Cymru mewn Ysgolion yn gallu cynnig prisiau cyfanwerthu organig teg i dyfwyr, oherwydd bod eu hardystiad organig yn gwarantu buddion cyhoeddus ehangach.
Mae’r adnoddau hyn yn tynnu sylw at y cyfleoedd i fusnesau bach a chanolig gan gynnwys tyfwyr bach a busnesau cymdeithasol a all ddeillio o gontractau cyhoeddus mwy a thymor hwy, yr heriau, a’r hyn sydd angen i chi ei ddeall am faes caffael cyhoeddus i wneud y gorau o’r cyfle.









