Adnoddau Cyllid ar gyfer Tyfwyr
Crëwyd yr adnoddau ariannol hyn gan Robert Owen Community Banking ac fe’u cynlluniwyd i gefnogi tyfwyr bach i lywio tirwedd ariannol eu diwydiant. O ddeall opsiynau ariannu a rheoli llif arian i archwilio atebion creadigol i’r gweithlu a gwneud y mwyaf o werth cnydau, mae’r adnoddau hyn yn darparu cyngor ymarferol wedi’i deilwra i anghenion unigryw busnesau garddwriaethol bach yng Nghymru.
Trwy ddarparu strategaethau ymarferol ac adolygu arferion mentrau garddwriaethol bach llwyddiannus yng Nghymru – nod yr adnoddau yw grymuso tyfwyr i adeiladu busnesau cynaliadwy a phroffidiol wrth ddiwallu’r galw cynyddol gan ddefnyddwyr am gynnyrch ffres, lleol ac organig. P’un a ydych chi’n dechrau, yn cydgrynhoi eich gweithrediad, neu’n ceisio ehangu, mae’r pecyn cymorth hwn yma i’ch tywys bob cam o’r ffordd.








