Aerglosrwydd ac Awyru

Mae’r broses o wneud adeilad yn fwy aerglos ac asesu gofynion awyru adeilad yr un mor bwysig a dylent fynd law yn llaw wrth i ni gynllunio ein hymyriadau. Mae awyru yn hanfodol ar gyfer adeilad iach: nid yn unig y mae’n cadw CO2 ar y lefelau cywir, ond mae’n helpu i fflysio llygryddion dan do, a hyd yn oed firysau, i ffwrdd.

Mae’r ddogfen hon yn edrych yn fanylach ar aerglosrwydd ac awyru a sut i sicrhau eu bod yn gweithio gyda’i gilydd.

Lefel y Dysgwr: Technegol