Asedau Ni – 1. Dechrau gyda ‘pam’: Diffinio eich diben

Dechreuwch gyda diben clir. Y cam cyntaf i grwpiau cymunedol sy’n ystyried cymryd adeilad neu dir yw cael syniad pendant o pam mae’r prosiect yn bwysig. Bydd hyn yn eich helpu i gadw at yr hyn sy’n wirioneddol bwysig ac yn eich cefnogi wrth siarad â chyllidwyr a phartneriaid.

Holwch eich hun:

  • Pa broblem ydyn ni’n ceisio ei datrys?
  • Pwy yn ein cymuned fydd yn elwa?
  • Pam bod angen yr adeilad neu’r tir hwn i wneud hynny’n bosibl?

Enghraifft: “Ry’n ni eisiau achub yr hen lyfrgell a’i defnyddio fel man gwaith cymunedol a chaffi sy’n cefnogi hyfforddiant lleol.”

CAMAU YMARFEROL

  • Cadwch eich diben yn fyr ac yn hawdd ei gofio.
  • Canolbwyntiwch ar y budd i’r gymuned, nid ar yr adeilad na’r tir ei hun.
  • Profwch eich diben gyda rhywun rydych yn ymddiried ynddo i wirio ei fod yn gwneud synnwyr.

Rhestr wirio:

☐ Ry’n ni wedi crynhoi ein diben mewn un neu ddwy frawddeg

☐ Gallwn egluro pwy sy’n elwa a pham mae’r adeilad neu’r tir yn gwneud gwahaniaeth

Ry’n ni’n argymell yr adnoddau hyn i’ch helpu i ddiffinio diben eich prosiect.

Star Resource (2)

Mae tudalennau 7-10 Imagination and vision a Discovery yn fan cychwyn da i’ch annog i feddwl am ddiffinio pwrpas eich prosiect.

Ar dudalennau 21–22 o’r canllaw hwn gan DTA, cewch esboniad clir o sut i bennu amcanion prosiect gan ddefnyddio’r fframwaith SMARTER.

Dilynwch y dolenni Getting started ar ochr chwith y wefan DTAS hon. Mae rhywfaint o’r wybodaeth yn berthnasol i’r Alban yn unig.

Mae’r enghreifftiau yn y canllaw BCT hwn yn cynnig syniadau ymarferol er mwyn eich helpu i ddiffinio prif bwrpas eich prosiect.

Mae llawer mwy o adnoddau ar gael ar sut i ddechrau ar eich prosiect.

Gallwch hefyd gael cymorth i’ch helpu i’ch helpu i ddatblygu diben gan y canlynol:

Asedau Ni (1)