Asedau Ni – 2. Meithrin cefnogaeth leol: dangos cefnogaeth y gymuned
Mae perchnogaeth gymunedol yn gweithio pan mae’r gymuned yn arwain y ffordd, a bydd angen cefnogaeth arnoch gan bobl a sefydliadau lleol.
CAMAU YMARFEROL
- Trefnwch gyfarfod agored neu sesiwn wrando i gasglu syniadau.
- Dechreuwch yn fach — mae un cyfarfod agored yn ddigon i ddechrau.
- Casglwch enwau a manylion cyswllt er mwyn adeiladu rhestr o gefnogwyr.
- Defnyddiwch y cyfryngau cymdeithasol i helpu lledaenu’r neges.
- Sefydlwch grŵp llywio o tua 5–8 o bobl sy’n adlewyrchu eich cymuned.
- Gwnewch restr o sefydliadau allweddol yn eich ardal — er enghraifft y cyngor tref neu gymuned, cymdeithasau lleol, tafarndai, neuaddau pentref a mannau addoli.
Bydd y camau hyn yn dangos bod gan eich prosiect gefnogaeth y gymuned – dyma un o’r pethau cyntaf y bydd cyllidwyr yn gofyn amdano.
Rhestr wirio:
☐ Ry’n ni wedi cynnal o leiaf un cyfarfod cyhoeddus
☐ Ry’n ni’n casglu barn ac yn cynnwys pobl drwy amryw o weithgareddau.
☐ Ry’n ni wedi creu rhestr o gefnogwyr
☐ Ry ’n ni wedi adnabod ac wedi cysylltu â phartneriaid neu gefnogwyr lleol allweddol
Ry’n ni’n argymell yr adnoddau hyn i’ch helpu i adeiladu cefnogaeth leol.
Mae llawer mwy o adnoddau ar gael ar sut i sicrhau cefnogaeth eich cymuned.
- Case Study in Community Engagement (Llais y Goedwig)
- Webinar: Why community engagement is key to your success (Locality)
- Community engagement Plan Template (Plunkett UK)
- Community Questionnaire Template – pubs (Plunkett UK)
- Community Questionnaire Template – shops (Plunkett UK)
- Gwefan DTAS: Involving your community (DTAS)
Gallwch hefyd gael cymorth i’ch helpu i weithio gyda chymunedau gan y canlynol:
- Cymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu (CYD Cymru): yn darparu cymorth sy’n cymuned‑ganolog i’w haelodau.
- Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo: yn gweithio i adfywio cymunedau ardaloedd glofaol yn Lloegr, yr Alban a Chymru.
- Cwmpas: yn cefnogi mentrau cymunedol a mentrau cydweithredol.
- Cefnogi Trydydd Sector Cymru: man cychwyn da os ydych chi’n dechrau o’r newydd.
- Gwasanaeth Cynghori Tir Cymunedol Cymru (CLAS Cymru): yn cynnig cymorth ar gyfer prosiectau sy’n ymwneud â thir cymunedol, tyfu bwyd, coetiroedd neu fynediad at dir.
- Eich corff cymorth lleol ar gyfer sefydliadau gwirfoddol: ar gael drwy CGGC (WCVA).





