Asedau Ni – 3. Gwirio dichonoldeb: gweld a yw’r syniad yn dal dŵr

Cyn ymrwymo i berchnogaeth, gwiriwch a yw’r syniad yn realistig ac yn fforddiadwy, a gwnewch asesiad dichonoldeb cychwynnol:

  • Ydych chi’n gwybod pwy sy’n berchen ar y tir neu’r adeilad?
  • Ydych chi’n ymwybodol o’i gyflwr presennol?
  • A oes gennych syniadau clir ynghylch ei ddefnydd, ac a oes gwir alw amdano?
  • A all eich grŵp ei gymryd ymlaen yn gyfreithiol?
  • A yw’r cyngor lleol neu’r perchennog presennol yn cefnogi’r syniad o’i ddefnyddio gan y gymuned?
  • Ydych chi’n gwybod a oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer yr hyn rydych chi’n bwriadu ei wneud?

Os gallwch ateb “ie” i’r rhan fwyaf o’r uchod, rydych chi’n barod i ymchwilio ymhellach.

CAMAU YMARFEROL

  • Defnyddiwch y Gofrestrfa Tir i gadarnhau pwy sy’n berchen ar y tir.
  • Cerddwch o amgylch y tir neu’r adeilad gyda chaniatâd a chymerwch luniau. Does dim angen i amcangyfrifon costau cynnar fod yn berffaith.
  • Siaradwch â’r cyngor neu’r perchennog yn gynnar i weld a oes cefnogaeth.
  • Ystyriwch a oes angen caniatâd cynllunio, a pha hawliau cyfreithiol sydd gan eich grŵp.

Rhestr wirio:

☐ Ry’n ni’n gwybod pwy sy’n berchen ar yr ased

☐ Mae gennym syniad o’r defnydd posibl a’r costau

☐ Ry’n ni wedi siarad â’r cyngor neu’r landlord

☐ Ry’n ni wedi dechrau meddwl am strwythurau cyfreithiol

Ry’n ni’n argymell yr adnoddau hyn i’ch helpu wirio dichonoldeb.

Star Resource (2)

Gwefan DTAS sy’n cynnwys gwybodaeth am asesiad cychwynnol, hyfywedd a chynaliadwyedd, a chynnal astudiaeth ddichonoldeb.

Mae tudalennau 51-60 o’r canllaw DTA hwn yn cynnwys gwybodaeth fanwl am sut i asesu dichonoldeb eich prosiect.

Adnodd gwych gan My Community i ddechrau asesu a yw eich cynlluniau i gaffael ased yn realistig ac yn gyraeddadwy.

Deunyddiau hyfforddi DTAS gyda rhestrau gwirio defnyddiol. Mae’n cynnwys cyfeiriadau at ddeddfwriaeth yn yr Alban.

Mae llawer mwy o adnoddau ar gael ar sut i asesu pa mor ymarferol yw eich prosiect.

Gallwch hefyd gael cymorth i’ch helpu i asesu dichonoldeb gan y canlynol: