Asedau Ni – 4. Sefydlu’r strwythur cyfreithiol cywir: penderfynu sut fydd eich grŵp yn gweithio

Er mwyn cymryd adeilad neu dir i ddefnydd y gymuned, bydd angen strwythur cyfreithiol ffurfiol ar eich grŵp. Mae hyn yn eich helpu i agor cyfrif banc, gwneud cais am gyllid, llofnodi cytundebau prydles, cyflogi staff, a dangos eich bod yn gallu rheoli ased yn gyfrifol.

Mae opsiynau cyffredin yn cynnwys:

  • Cwmni Budd Cymunedol (CIC) – da ar gyfer masnachu a menter gymdeithasol.
  • Cymdeithas Budd Cymunedol (CBS) – delfrydol os ydych yn bwriadu codi arian trwy gynnig cyfranddaliadau cymunedol.
  • Sefydliad Corfforedig Elusennol (CIO) – addas ar gyfer grwpiau sydd eisiau statws elusennol.
  • Cwmni Cyfyngedig drwy Warant (CLG) – strwythur syml sy’n cael ei ddefnyddio yn aml gan grwpiau cymunedol.
  • Cymdeithas Gydweithredol: y dewis gorau ar gyfer grwpiau sydd eisiau rheolaeth ddemocrataidd, sy’n eiddo i’r aelodau ac yn seiliedig ar egwyddorion cydweithredol.

CAMAU YMARFEROL

  • Dewiswch strwythur sy’n addas ar gyfer eich cynlluniau hirdymor.
  • Meddyliwch sut y bydd pobl leol yn cymryd rhan mewn penderfyniadau.
  • Does dim angen i chi gwblhau popeth ar unwaith, ond mae cyllidwyr yn disgwyl gweld strwythur cyn y trosglwyddiad.

Rhestr wirio:

☐ Ry’n ni wedi dewis strwythur cyfreithiol

☐ Ry’n ni’n deall sut mae penderfyniadau yn cael eu gwneud

☐ Gallwn agor cyfrif banc a gwneud cais am gyllid

☐ Ry’n ni yn gwybod pa gyfrifoldebau sy’n dod gyda’r strwythur

Ry’n ni’n argymell yr adnoddau hyn ar ddewis strwythur cyfreithiol.

Star Resource (2)

Canllaw cynhwysfawr a hygyrch gan Sefydliad Plunkett ar ddewis strwythur cyfreithiol.

Canllaw cynhwysfawr gan Cwmpas i fodel busnes Cymdeithas Budd Cymunedol.

Deunyddiau hyfforddi COSS yr Alban. Mae tudalen 15 yn cynnwys tabl sy’n crynhoi strwythurau cyfreithiol yn effeithiol.

Canllawiau ar drosglwyddo asedau cymunedol gan Ystadau Cymru, gyda gwybodaeth glir am strwythurau llywodraethu.

Mae llawer mwy o adnoddau ar ddewis strwythur cyfreithiol.

Gallwch hefyd gael cymorth i’ch helpu i sefydlu strwythur cyfreithiol gan y canlynol:

Cymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu (CYD Cymru): yn darparu cymorth sy’n cymuned‑ganolog i’w haelodau.

Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo: yn gweithio i adfywio cymunedau ardaloedd glofaol yn Lloegr, yr Alban a Chymru.

Cwmpas: yn cefnogi mentrau cymunedol a mentrau cydweithredol.

Cefnogi Trydydd Sector Cymru: man cychwyn da os ydych chi’n dechrau o’r newydd.

Gwasanaeth Cynghori Tir Cymunedol Cymru (CLAS Cymru): yn cynnig cymorth ar gyfer prosiectau sy’n ymwneud â thir cymunedol, tyfu bwyd, coetiroedd neu fynediad at dir.

Eich corff cymorth lleol ar gyfer sefydliadau gwirfoddol: ar gael drwy CGGC (WCVA).