Asedau Ni – 5. Dod o hyd i’r arian: edrych ar y costau a’r opsiynau ariannu
Mae’r rhan fwyaf o grwpiau’n defnyddio cyfuniad o grantiau, benthyciadau, codi arian yn lleol, incwm masnachol a chymorth nad yw’n ariannol. Mae’n gwbl arferol i’r cynllun ariannol ddatblygu’n raddol. Yn aml, mae grwpiau’n dechrau gyda grant bach (o dan £10,000) i dalu am arolygon, astudiaethau dichonoldeb neu gynllun busnes. Mae’r camau cynnar hyn yn helpu i fesur y costau go iawn ac i ddeall pa incwm y gallai’r ased ei gynhyrchu.
Camau Ymarferol
- Dechreuwch gyda grantiau bach i dalu am y gwaith cynnar.
- Lluniwch gyllideb syml ar gyfer prynu, adnewyddu, ffioedd cyfreithiol ac arolygon, a nodwch sut y byddwch yn talu amdanyn nhw.
- Nodwch ffynonellau incwm posibl, megis llogi ystafelloedd, caffi, dosbarthiadau, digwyddiadau neu wasanaethau.
- Ystyriwch fuddsoddiad cymdeithasol neu gyllid benthyciad yn gynnar, hyd yn oed os nad ydych yn bwriadu eu defnyddio.
- Chwiliwch am gefnogaeth anariannol, fel nwyddau am ddim neu gyngor pro bono.
Rhestr wirio
☐ Mae gennym syniad clir o’r arian sydd ei angen a sut y bydd yn cael ei ddefnyddio
☐ Ry’n ni wedi dod o hyd i o leiaf un grant a allai gefnogi ein gwaith cynnar
☐ Mae ein cyllideb yn talu am y prif gostau ac yn ymddangos yn realistig
☐ Ry’n ni’n deall sut y gallai’r ased gynhyrchu incwm dros amser
☐ Ry’n ni wedi ystyried benthyciad neu fuddsoddiad cymdeithasol
☐ Ry’n ni’n gwybod pa gymorth lleol sydd ar gael a sut y gall helpu
Ry’n ni’n argymell yr adnoddau hyn ar opsiynau ariannu.
There are many more resources on costs and funding.
- Llywodraethiant Busnes Cymdeithasol Cymru (Busnes Cymdeithasol Cymru)
- Community shares webpage (Co-operatives UK)
- Securing funding for your capital project (Locality)
- Community shares & community assets (My Community)
- Churches Crowdfunder Guide (COSS – canllaw cyffredinol da)
- Map Cyfranddaliadau Cymunedol Cymru (Cwmpas)
- Top tips for submitting your capital funding grant application (Locality)
- Astudiaethau achos Cyfranddaliadau Cymunedol Cymru (Cwmpas)
- Blog Cyfranddaliadau Cymunedol Cymru (Cwmpas)
- Revenue funding sources to support project development costs (Locality – canolbwyntio ar Loegr)
- Community Woodlands Funding and Fundraising (Community Woodlands Association – canolbwyntio ar Yr Alban)
Gallwch hefyd gael cymorth i’ch helpu i ddod o hyd i arian gan y canlynol:
- Cymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu (CYD Cymru): yn darparu cymorth sy’n cymuned‑ganolog i’w haelodau.
- Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo: yn gweithio i adfywio cymunedau ardaloedd glofaol yn Lloegr, yr Alban a Chymru.
- Cwmpas: yn cefnogi mentrau cymunedol a mentrau cydweithredol.
- Cefnogi Trydydd Sector Cymru: man cychwyn da os ydych chi’n dechrau o’r newydd.
- Gwasanaeth Cynghori Tir Cymunedol Cymru (CLAS Cymru): yn cynnig cymorth ar gyfer prosiectau sy’n ymwneud â thir cymunedol, tyfu bwyd, coetiroedd neu fynediad at dir.
- Eich corff cymorth lleol ar gyfer sefydliadau gwirfoddol: ar gael drwy CGGC (WCVA).





