Asedau Ni – 6. Cynllunio’r prosiect: trefnu tasgau, rolau ac amserlenni

Unwaith y bydd y syniad a’r cyllid yn dechrau cymryd siâp, cynlluniwch sut y bydd y prosiect yn rhedeg. Nodwch y prif dasgau, pwy fydd yn eu harwain, a’r amserlen ar gyfer cyflawni’r gwaith. Mae rolau clir a chynllun syml yn eich helpu i aros yn drefnus a gwneud penderfyniadau da wrth i’r prosiect ddatblygu.

Camau ymarferol

  • Cadwch rolau’n syml — gall un person gyflawni mwy nag un rôl yn y camau cynnar.
  • Mapiwch y prif gamau: arolygon, dylunio, caniatâd, prynu, ac adnewyddu.
  • Chwiliwch am gyngor proffesiynol os oes angen — gan syrfewyr, cyfreithwyr, penseiri ac ati — a’i gynnwys yn eich amserlen.
  • Lluniwch gynllun busnes cryno sy’n cynnwys incwm, costau a risgiau.
  • Crëwch amserlen fras ar gyfer y prosiect fel bod pawb yn gwybod pryd bydd pethau’n digwydd.
  • Cadwch y cynllun yn hyblyg.

Rhestr wirio

☐ Mae’n glir pwy sy’n gwneud beth a sut mae penderfyniadau’n cael eu gwneud

☐ Ry’n ni’n gwybod pa gyngor arbenigol sydd ei angen, a phryd

☐ Mae gennym ddarlun glir o’r prosiect o’r dechrau i’r diwedd

☐ Mae ein cynllun busnes yn dangos sut bydd y prosiect yn gweithio yn y tymor hir

☐ Mae gennym amserlen syml sy’n dangos ein camau nesaf ac yn ein helpu i aros ar y trywydd iawn

Ry’n ni’n argymell yr adnoddau hyn ar gynllunio eich prosiect.

Star-Resource-2

Adnoddau cynhwysfawr a hygyrch gan Busnes Cymdeithasol Cymru ar gydymffurfiaeth, llywodraethu a rheoli.

Canllaw hygyrch gan Locality am fathau o gynghorwyr proffesiynol, sut i ddod o hyd iddyn nhw, eu dewis a gweithio gyda nhw.

Dilynwch y dolenni Business Planning ar ochr chwith y wefan DTAS hon. Mae rhywfaint o’r wybodaeth yn berthnasol i’r Alban yn unig.

Mae tudalennau 75 i 84 o’r canllaw DTA hwn yn darparu canllaw clir a hygyrch ar gynllunio busnes.

Gallwch hefyd gael cymorth gan y canlynol i’ch helpu i gynllunio a datblygu eich prosiect: