Asedau Ni – 7. Sicrhau’r ased: cytuno ar y cytundeb a gwirio’r manylion

Pan fyddwch chi’n barod, cytunwch ar y fargen gyda’r perchennog ac ewch drwy’r camau ffurfiol i brynu neu brydlesu’r adeilad neu’r tir. Mae’r cam hwn yn ymwneud â gwirio’r ased yn iawn, cael cyngor da, a sicrhau bod y telerau’n glir ac yn fforddiadwy. Fel arfer, mae grwpiau’n sicrhau ased drwy drosglwyddiad ased, pryniant uniongyrchol neu brydles.

Camau ymarferol

  • Gwiriwch yr adeilad neu’r tir yn ofalus, a chael arolygon, prisiad a gwiriadau cyfreithiol fel eich bod yn gwybod yn union sydd o’ch blaen.
  • Cytunwch ar y prif delerau gyda’r perchennog: pris, amserlen, cyfrifoldebau ac unrhyw amodau.
  • Sicrhewch gyngor cyfreithiol bob tro cyn llofnodi unrhyw beth.
  • Nodwch yn glir pwy sy’n gyfrifol am atgyweiriadau, yswiriant, cynnal a chadw a rhedeg y lle o ddydd i ddydd.
  • Gwnewch yn siŵr bod eich cynllun ariannu’n talu am bopeth – y trosglwyddiad ei hun, ffioedd cyfreithiol, arolygon ac unrhyw waith cynnar.
  • Trafodwch beth fydd yn digwydd os bydd yr amserlen yn llithro neu os bydd cyllid yn cael ei oedi.

Rhestr wirio

☐ Ry’n ni’n glir ynghylch cyflwr a gwerth yr ased, a’r unrhyw gyfyngiadau cyfreithiol

☐ Ry’n ni’n deall y cyfrifoldebau, a beth maen nhw’n golygu yn ymarferol

☐ Ry’n ni wedi cael cyngor cyfreithiol priodol ac yn teimlo’n hyderus ynghylch y goblygiadau

☐ Mae prif delerau’r cytundeb wedi’u cytuno, ac mae pawb yn deall beth maen nhw’n golygu

☐ Mae’r llwybr (trosglwyddo, prynu, prydlesu) yn glir, ac ry’n ni’n deall pam ei fod yn addas i ni

☐ Mae ein cynllun ariannu’n realistig ac yn talu am gost lawn sicrhau’r ased.

Ry’n ni’n argymell yr adnoddau hyn ar gyfer cwblhau’r cytundeb a sicrhau eich ased.

Star-Resource-2

Cyflwyniad da gan Ystadau Cymru sy’n amlygu nifer o bwyntiau y dylai grwpiau eu hystyried wrth drosglwyddo asedau cymunedol. 

Dilynwch y dolenni Legal issues, Contracts and agreements a Title deeds ar wefan DTAS. Mae rhywfaint o’r wybodaeth yn benodol i’r Alban.

Mae tudalennau 95 i 106 o’r canllaw DTA hwn yn darparu gwybodaeth am faterion cyfreithiol sy’n ymwneud â datblygu a throsglwyddo asedau.

Adnoddau cynhwysfawr a hygyrch gan Busnes Cymdeithasol Cymru ar gydymffurfiaeth, llywodraethu a rheoli.

Gallwch hefyd gael cymorth gan y canlynol i’ch helpu i sicrhau eich ased: