Asedau Ni – 8. Cadw’r ased i fynd: gofal tymor hir a chynaliadwyedd

Bod yn berchen ar ased cymunedol yw dechrau’r daith, nid y diwedd. Unwaith mae’r adeilad neu’r tir yn dod i’ch dwylo chi, mae angen meddwl am sut i ofalu amdano, talu’r biliau, a chadw pobl leol yn rhan o’r hyn sy’n digwydd. Ased cynaliadwy yw un sy’n cael ei gynnal a’i gadw’n dda, yn cynhyrchu rhywfaint o incwm ac yn parhau i fod yn rhan naturiol o’r gymuned.

Camau ymarferol

  • Cynlluniwch ar gyfer gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio o’r diwrnod cyntaf.
  • Cadwch y gymuned yn rhan o’r broses drwy gyfarfodydd rheolaidd a chyfathrebu clir.
  • Sefydlwch systemau syml ar gyfer rheoli archebion, cyllid a tasgau dyddiol.
  • Adolygwch eich cynllun busnes bob blwyddyn a’i ddiweddaru wrth i bethau newid.
  • Gwnewch yn siŵr fod gennych yr yswiriant a’r gwiriadau diogelwch priodol.
  • Cadwch gronfa wrth gefn fechan ar gyfer costau annisgwyl.

Rhestr wirio

☐ Mae ein costau parhaus yn cael eu talu drwy gymysgedd o incwm, codi arian ac arian wrth gefn

☐ Mae gennym gynllun clir ar gyfer gofalu am yr ased dros amser

☐ Ry’n ni wedi nodi sy’n dod ag incwm i mewn o’r ased

☐ Mae pobl leol yn cael cyfleoedd rheolaidd i fod yn rhan o’r hyn sy’n digwydd

☐ Mae systemau syml ar waith i sicrhau bod pethau’n rhedeg yn llyfn

☐ Ry’n ni’n barod ar gyfer costau neu newidiadau annisgwyl

Rydyn ni’n argymell yr adnoddau hyn ar gyfer gofalu am eich ased yn y tymor hir.

Star-Resource-2

Gwybodaeth fanwl a hygyrch am waith cynnal a chadw, rheoli risg a chynaliadwyedd hirdymor. Mae rhywfaint o’r wybodaeth yn berthnasol i’r Alban yn unig.

Canllawiau, offer ac adnoddau CYD Cymru, gyda fforwm trafod, ac adnoddau wedi’u cynllunio i helpu gyda rheoli adeiladau cymunedol.

Astudiaethau achos Ystadau Cymru ar Drosglwyddo Asedau Cymunedol, gan gynnwys gwersi a ddysgwyd a manylion cyswllt.

Canllaw Locality ar gynnal ased cymunedol, archwiliadau ynni a charbon, arbed ynni, a gwneud eich adeilad cymunedol yn fwy cynaliadwy.

Mae llawer mwy o adnoddau ar gadw eich ased yn gynaliadwy.

Gallwch hefyd gael cymorth i ofalu am eich ased yn y tymor hir gan y canlynol: