Cyflwyno i Fuddsoddwyr

Gall dod yn “barod i fuddsoddi” deimlo braidd yn frawychus ar y dechrau, ond mae’n bwysig paratoi eich busnes i wneud yr argraff orau bosibl. I dyfwyr bwyd ar raddfa fach, mae hyn yn golygu dangos i fenthycwyr neu fuddsoddwyr bod gennych gynllun clir, dealltwriaeth dda o’ch marchnad, a’ch bod yn gyfarwydd â’ch materion ariannol eich hun.

Mae’r ddogfen hon yn eich tywys drwy’r hyn y gellir ei ddisgwyl pan fyddwch yn cyflwyno’ch menter i fuddsoddwyr posibl.

Logo Footers