Cyfres Sicrwydd Ffermoedd

Mae’r Gyfres Hyfforddiant Sicrwydd Ffermoedd yn gasgliad o weminarau, hyfforddiant a chymorth sydd wedi’u hanelu at dyfwyr sy’n ystyried gwneud cais am safonau neu gynlluniau amaethyddol.

Er mwyn apelio at sylfaen cwsmeriaid a marchnad fanwerthu ehangach neu amgen, fel tyfwr efallai y bydd gofyn i chi fodloni gofynion penodol. Er ei bod yn gyffredin ar gyfer cyflenwi i fanwerthwyr mawr a phroseswyr bwyd, mae llawer o gyfanwerthwyr llai a siopau arbenigol bellach yn ei gwneud yn ofynnol i dyfwyr gael eu hardystio i safon amaethyddol gydnabyddedig fel ffordd o ddangos eu hymrwymiad i ddiogelwch bwyd, yr amgylchedd neu statws organig. Gellir gweld ardystio i safon amaethyddol gydnabyddedig fel cael troed i mewn i ddrws darpar gwsmer.

Mae’r ddogfen hon yn darparu manylion a dolenni i’r Hyfforddiant Sicrwydd Ffermoedd, a gyflwynir gan yr arbenigwr yn y diwydiant, Malcom Laidlaw o ML3 Technical.

Logo Footers