Dechrau’n Fach: Camau Cyntaf ar Eich Taith Effeithlonrwydd

Mae’n hawdd edrych ar broblem fawr: efallai eich biliau ynni blynyddol, neu allyriadau carbon unigolyn neu sefydliad, a dod i’r casgliad yn syml nad oes modd gwneud dim yn ei chylch, bod y broblem yn rhy fawr i’w goresgyn. Fel y gall unrhyw un sy’n ymwneud â rhedeg adeilad cymunedol dystio, mae rheoli’r mannau hyn yn dod â llawer o heriau gan gynnwys oedran neu gyflwr gwael yr adeilad, grŵp rhy fach o wirfoddolwyr, neu ddiffyg adnoddau i fynd i’r afael â phroblemau.

Yn y ddogfen hon, byddwn yn edrych ar ystod o wahanol gamau y gallwn ni i gyd eu cymryd i leihau’r defnydd o ynni, lleihau costau a lleihau allyriadau carbon. Nid yw arian (sy’n aml yn ffactor cyfyngu ar adeiladau cymunedol) yn rhwystr oherwydd bod y rhan fwyaf o’r mesurau am ddim neu’n gymharol gost isel.

Lefel y Dysgwr: Sylfaen