Ffenestri a Drysau

Mae llawer ohonom wedi arfer ystyried ffenestri a drysau fel ffynonellau sylweddol o ddrafftiau (a cholli gwres) yn ein hadeiladau. Gall y math o ffenestri a drysau a’r ffordd y cânt eu gosod gael effaith enfawr ar faint o golled gwres.

Mae’r ddogfen hon yn edrych ar y gwahanol fathau o ffenestri a drysau sydd ar gael a’r effaith gymharol sydd gan bob un ar effeithlonrwydd ynni eich adeilad. Mae hefyd yn edrych ar bwyntiau y mae angen eu hystyried yn ystod y gosodiad.

Lefel y Dysgwr: Technegol