Goleuadau DAG

Yn nodweddiadol, mae 20–50% o alw adeilad am drydan yn cael ei ddefnyddio gan oleuadau. Mae’r ganran union yn dibynnu ar nifer o ffactorau, ond yn enwedig ar natur y goleuadau yn yr eiddo (mae goleuadau llwyfan yn defnyddio cryn dipyn o bŵer, fel y mae goleuadau maes chwaraeon y tu allan), a hefyd beth arall sy’n defnyddio pŵer (mae gwresogi trydan uniongyrchol yn defnyddio llawer o bŵer ac felly gall ystumio’r ganran a ddefnyddir ar gyfer goleuadau i lawr i swm cymharol fach).

Bydd y canllaw hwn yn darparu canllawiau ar gyfer defnyddio ynni gwahanol fathau o oleuadau, a sut y gall gosod goleuadau GAD a synwyryddion SIG leihau biliau ynni.

Lefel y Dysgwr: Canolradd