Gwelliannau Cyllido
“Sut ydym ni’n ei ariannu?” Dyma un o’r cwestiynau cyntaf y bydd grŵp yn ei ofyn wrth gychwyn ar brosiect sy’n gysylltiedig ag ynni.
Mae sawl grant ar gael i grwpiau sy’n ceisio cychwyn ar brosiectau ynni. Mae rhai o’r rhain yn benodol ar gyfer prosiectau sy’n gysylltiedig ag ynni tra bod rhai yn fwy cyffredinol: darllenwch y meini prawf cymhwysedd a manylion y grant bob amser. Mae gan lawer o gyrff dyfarnu grantiau aelodau staff sy’n barod i ateb cwestiynau neu i gael sgwrs cyn i chi fynd i’r ymdrech o baratoi cais ffurfiol a gall fod yn werth manteisio ar y cynnig hwn.
Mae’r ddogfen hon yn darparu dolenni i ffynonellau gwybodaeth, yn gywir ar adeg cyhoeddi, am ffynonellau posibl o gyllid grant a allai fod ar gael ar gyfer eich prosiect.
Lefel y Dysgwr: Sylfaen
