Gwerth Cymdeithasol
Mae deall a disgrifio eich gwerth cymdeithasol yn allweddol i ennill contractau. Yng Nghymru, mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn fframio sut mae deddfwriaeth Caffael Cymru yn diffinio Gwerth Cymdeithasol.
Mae’r ddogfen hon yn edrych ar ffyrdd o ddiffinio eich gwerth cymdeithasol, siarad amdano gyda phrynwyr a chynnwys eich cadwyn gyflenwi.
