Hwb Adeiladau Cymunedol: Hafan
Croeso i’r Hwb Adeiladau Cymunedol!
Dyma gyfres o ganllawiau, offer ac adnoddau, wedi’u cefnogi gan fforymau trafod byw, pob un wedi’i gynllunio i helpu gyda rheoli adeiladau cymunedol.
Rydym yn gwybod y gall rhedeg adeilad cymunedol fod yn anodd, gyda chynnal a chadw, atgyweiriadau annisgwyl, biliau ynni, yswiriant a llawer mwy i gyd yn cystadlu am amser ochr yn ochr â rhedeg eich sefydliad.
Mae’r Hwb hwn yn ofod sy’n tyfu ac yn esblygu. Rydym yn dechrau gydag Ynni a byddwn yn ychwanegu adnoddau ar bynciau eraill wrth i ni dyfu. Os oes rhywbeth yr hoffech chi ei weld yn cael ei drafod yn benodol, rhowch wybod i ni yn un o’r mannau trafod.



