Lleithder mewn Adeiladau

Gellir ystyried lleithder fel problem barhaus yng Nghymru lle mae llawer o bobl yn goddef y ffaith bod eu hadeiladau’n llaith, gan ystyried bod hyn yn anochel o ystyried ein hinsawdd wlyb. Fodd bynnag, bydd adeilad llaith yn costio mwy i’w redeg yn ogystal â bod yn lle llai dymunol i’r gymuned fod ynddo.

Fel mae’r canllaw hwn yn ei ddangos, gall atal dŵr rhag mynd i mewn fod yn rhan o gadw i fyny â chynnal a chadw cyffredinol eich adeilad ac mae’n bosibl dod o hyd i ffyrdd o dynnu lleithder gormodol heb beryglu mesurau aerglosrwydd ac inswleiddio.

Lefel y Dysgwr: Canolradd