Llyfrgell Ar-lein Asedau Ni
Llyfrgell o adnoddau ar gyfer mentrau cymdeithasol a sefydliadau cymunedol yng Nghymru.
Croeso i lyfrgell o syniadau, adnoddau ac enghreifftiau i helpu grwpiau cymunedol a mentrau cymdeithasol yng Nghymru i ymgymryd ag adeiladau neu dir at ddefnydd cymunedol.
Mae popeth yma’n dilyn yr un wyth cam â’n canllaw cyflym, felly gallwch ddod o hyd i’r hyn sydd ei angen arnoch yn hawdd. Mae wedi’i gynllunio i fod yn syml i’w archwilio ac yn hawdd ei ddefnyddio fesul tipyn, wrth i’ch prosiect ddatblygu.
Mae pob cam yn cynnwys:
- esboniadau byr i’ch helpu i ddeall beth sy’n rhan o’r broses;
- adnoddau sydd wedi’u dewis oherwydd eu hansawdd da ac oherwydd eu bod yn hawdd eu defnyddio;
- astudiaethau achos o Gymru a thu hwnt;
- templedi, rhestrau gwirio ac offer ymarferol y gallwch eu defnyddio ar unwaith;
- nodiadau ar bolisi, cyllid a chyd-destun Cymru, lle bo hynny’n berthnasol.
Mae’r llyfrgell hon yn dethol y deunyddiau mwyaf defnyddiol yn hytrach na chyflwyno rhestr hir o ddolenni. Gallwch ganolbwyntio ar un cam, archwilio pwnc yn ddyfnach, neu symud yn ôl ac ymlaen wrth i’ch prosiect ddatblygu.
Os ydych chi newydd ddechrau, mae’r canllaw cyflym yn rhoi’r wybodaeth sylfaenol i chi. Pan fyddwch yn barod am fwy o fanylion, mae’r llyfrgell hon yn eich helpu i fynd ymhellach a dod o hyd i’r gefnogaeth gywir ar yr adeg iawn.
Bydd eich prosiect yn datblygu yn ei amser ei hun. Defnyddiwch y llyfrgell fel cydymaith ar y daith.
Am ragor o wybodaeth a chymorth, cysylltwch â {generic Asedau Ni email}
Dilynwch y dolenni isod i ddechrau.








