Matrics Safonau Tyfwyr

Mae gan bob busnes bwyd gyfrifoldeb i sicrhau bod y bwyd maen nhw’n ei gynhyrchu yn ddiogel. Mae angen i gyrff caffael cyhoeddus fod yn hyderus bod y bwyd maen nhw’n ei gaffael yn bodloni safonau a deddfwriaeth diogelwch a hylendid bwyd. Mae hyn yn arbennig o bwysig pan maen nhw’n gweithio gyda grwpiau risg uchel/mwy agored i niwed fel plant ifanc, yr henoed a chleifion ysbyty. Felly maen nhw’n ei gwneud yn ofynnol i’w cyflenwyr gymryd rhan mewn Cynlluniau Sicrwydd Ansawdd cydnabyddedig, er enghraifft cynlluniau sicrwydd Consortiwm Manwerthu Prydain a’r Tractor Coch.

Mae Garddwriaeth Cyswllt Ffermio wedi datblygu Safonau Cyflenwyr Tyfwyr Bach – yr achrediad sydd ei angen ar dyfwyr bach sy’n cyflenwi eu cynnyrch i’r farchnad caffael gyhoeddus.

Mae gorgyffwrdd sylweddol rhwng gofynion Safonau Cyflenwyr Tyfwyr Bach a chynlluniau eraill gan gynnwys y safonau organig, LEAF (Cysylltu’r Amgylchedd a Ffermio) a SALSA (Cymeradwyaeth Cyflenwyr Diogel a Lleol).

Oherwydd y groesffordd rhwng y gofynion yn y gwahanol Safonau, crëwyd ‘matrics trawsgydymffurfio’ sy’n caniatáu i dyfwyr osgoi dyblygu o ran y broses achredu, gan leihau’r baich gweinyddol. Mae’r Matrics ei hun yn dangos y gorgyffwrdd rhwng y Safonau, a byddai arolygwyr yn ei ddefnyddio i helpu i sicrhau na fyddai unrhyw feini prawf y mae’r tyfwr eisoes wedi’u bodloni o dan safonau sy’n bodoli eisoes yn cael eu hailasesu wrth asesu ar gyfer y Safonau Tyfwyr Bach.

null

Adroddiad

Safonau Cyflenwyr Tyfwyr Bach a'r berthynas â chynlluniau sicrwydd eraill.

null

Matrics

Matrics Safonau Tyfwyr Bach, wedi'i gyflenwi fel ffeil Excel i chi ei haddasu a'i defnyddio.

Logo Footers