Mwyhau Effeithlonrwydd a Lleihau Costau
I dyfwyr ar raddfa fach, mae rheoli costau’n effeithiol yn hanfodol i gynnal cynaliadwyedd ariannol. Gall archwilio atebion llafur amgen, partneriaethau, a rhaglenni hyfforddi strwythuredig helpu i leihau treuliau wrth ddarparu cyfleoedd gwerthfawr ar gyfer cydweithio ac addysg. Fodd bynnag, rhaid i dyfwyr fod yn ymwybodol o ystyriaethau cyfreithiol wrth gyflogi gweithwyr di-dâl er mwyn osgoi risgiau ariannol a chyfreithiol sylweddol.
Mae’r ddogfen hon yn amlinellu ystod o systemau a strategaethau i’ch helpu i reoli costau a lleihau risgiau ariannol.
