Newid Ymddygiad
Nid yw adeilad cymunedol yn rhedeg ei hun; mae’n bodoli mewn perthynas â llawer o bobl, a gallai rhai ohonynt ymweld am un gweithgaredd unwaith yr wythnos tra bod eraill yn chwarae rhan fwy gweithredol wrth ofalu am yr adeilad yn ddyddiol.
Mae’r canllaw hwn yn cynnig trosolwg o’r angen am newid ymddygiad os ydym am sicrhau effeithiolrwydd addasiadau i’n hadeiladau (a chyrraedd targedau hinsawdd hefyd). Mae’n edrych ar y model o newid ymddygiad a ddefnyddir gan lywodraeth Cymru ac yn gorffen trwy awgrymu ffyrdd y mae offer TGCh yn cynnig help llaw wrth sefydlu patrymau defnydd gwell mewn adeilad.
Lefel y Dysgwr: Sylfaen
