Polisïau Ynni
Wrth i ni weithio i wneud ein hadeiladau’n effeithlon o ran ynni a lleihau ein costau ynni (a’n hallyriadau carbon) yn y presennol, mae angen i ni ddiogelu ymyriadau yn y dyfodol drwy ymgorffori’r nodau hyn mewn polisïau sy’n ein symud i’r un cyfeiriad. Er enghraifft, os ydym yn inswleiddio ein hadeilad i’w wneud yn fwy effeithlon o ran ynni ac yn gosod ffynhonnell wres carbon isel i leihau allyriadau carbon, ac yna’n adeiladu eiddo newydd wrth ymyl yr adeilad gwreiddiol heb inswleiddio a boeler nwy, rydym o bosibl wedi tanseilio’r gwaith da a wnaethom i leihau allyriadau yn yr eiddo cyntaf!
Dyma lle mae polisïau’n dod i mewn: maent yn diffinio ein gwerthoedd ac yn ein helpu i gadw at y gwerthoedd hynny pan wneir penderfyniadau yn y dyfodol. Mae’r ddogfen hon yn tynnu sylw at bolisïau allweddol ac yn eich cysylltu ag enghreifftiau a thempledi i chi eu defnyddio yn eich sefydliad eich hun.
Lefel y Dysgwr: Sylfaen
