Pontydd Thermol

Pont thermol (a elwir weithiau’n bont oer) yw lleoliad mewn eiddo lle mae mwy o lif gwres allan o’r eiddo o’i gymharu ag ardaloedd eraill. Gall hyn ddigwydd lle mae deunydd sy’n trosglwyddo gwres yn dda iawn (sy’n ddargludydd da e.e. dur) yn bresennol yn ffabrig yr adeilad ac yn treiddio trwy elfen yr adeilad. Gall pontydd thermol gynrychioli 10-15% o golled gwres adeilad, a gall technegau syml a chynllunio da yn ystod prosiect ôl-osod leihau nifer a difrifoldeb pontydd thermol. Bydd y ddogfen hon yn esbonio sut.

Lefel y Dysgwr: Technegol