Safonau Tyfwyr Bach
Mae gan bob busnes bwyd gyfrifoldeb i sicrhau bod y bwyd maen nhw’n ei gynhyrchu yn ddiogel. Mae angen i gyrff caffael cyhoeddus fod yn hyderus bod y bwyd maen nhw’n ei gaffael yn bodloni safonau a deddfwriaeth diogelwch a hylendid bwyd. Mae hyn yn arbennig o bwysig pan maen nhw’n gweithio gyda grwpiau risg uchel/mwy agored i niwed fel plant ifanc, yr henoed a chleifion ysbyty. Felly maen nhw’n ei gwneud yn ofynnol i’w cyflenwyr gymryd rhan mewn Cynlluniau Sicrwydd Ansawdd cydnabyddedig, er enghraifft Consortiwm Manwerthu Prydain a chynlluniau sicrwydd y Tractor Coch.
Mae’r safonau hyn wedi’u llunio gyda busnesau bwyd a ffermio mawr, arbenigol mewn golwg, a gall fod yn eithaf heriol i ffermwyr a thyfwyr bach, amrywiol, agroecolegol/organig fodloni’r safonau hyn. I fynd i’r afael â’r mater, mae Rhaglen Garddwriaeth Cyswllt Ffermio wedi datblygu’r Safonau Cyflenwyr Tyfwyr Bach sy’n briodol ac yn ymarferol i’r cynhyrchwyr hyn ar y naill law ac yn bodloni’r holl ofynion diogelwch a hylendid angenrheidiol ar y llaw arall.
Mae rhai o’r safonau hyn yn gorgyffwrdd â chynlluniau eraill fel Organic, LEAF a SALSA. Mae’r Matrics Trawsgydymffurfio yn dangos ble mae’r nodweddion cyffredin hynny, a sut y bydd y broses achredu yn cael ei symleiddio i dyfwyr ystyried hyn.
Mae’r ddogfen isod yn amlinellu’r prif gynlluniau ardystio a ddefnyddir gan dyfwyr bach ar hyn o bryd, ac rydym wedi creu dau bodlediad i ddangos beth sy’n gysylltiedig yn benodol â chyflawni’r Safonau Tyfwyr Bach.
Os hoffech archwilio’r Safonau Cyflenwyr Tyfwyr Bach ymhellach, cysylltwch â Horticulture@lantra.co.uk sy’n rhedeg Cyswllt Ffermio ac a all gynnig cefnogaeth i chi.
