Sefydlu Siop ar Gynllun Elusen
Nid dull o godi arian yn unig yw siopau elusennol — gallant ddod yn ganolfannau cymunedol gwerthfawr, ac yn lefydd ar gyfer hyfforddiant a chymdeithasu. Fodd bynnag, mae rhedeg siop yn ymrwymiad sylweddol. Mae’n cynnwys gweithrediadau manwerthu go iawn, cydymffurfiaeth â rheoliadau, a chydlynu staff a gwirfoddolwyr yn barhaus. Mae’r canllaw hwn yn eich helpu i bwyso a mesur y manteision a’r anfanteision, osgoi camgymeriadau cyffredin, ac adeiladu ar brofiad eraill.
Paratowyd y canllaw hwn gan CYD Cymru yn dilyn sesiwn cymorth cymheiriaid a gyflwynwyd drwy raglen Connectors UK. Rydym yn ddiolchgar i’r holl grwpiau a gymerodd ran am rannu eu profiadau: Splott Community Volunteers, Newtongrange Development Trust, Denby Dale Centre, West Howe Community Enterprises, a St Margaret’s House / Ayoka.
Rydym hefyd yn ddiolchgar i Heidi Seary o Growing Connections am ddarparu mewnwelediad ac arbenigedd ychwanegol.
