Strwythurau Cyfreithiol ar gyfer Tyfwyr Bach
Mae dewis y strwythur cyfreithiol cywir ar gyfer eich menter tyfu bwyd yn bwysig ond hefyd yn rhywbeth y dylid ei adolygu wrth i’ch prosiect ddatblygu a chymryd siâp. Ymhlith y goblygiadau allweddol i’w hystyried mae llywodraethu – pwy sydd â rheolaeth eithaf ac sy’n gyfrifol yn gyfreithiol.
Bydd eich dewis yn dibynnu ar faterion fel faint o bobl sy’n ymwneud â’r fenter, llwybrau ariannu (gweler yr adran ar ariannu), pwy fydd yn atebol am y risg. Mae’r ddogfen hon yn rhoi trosolwg o’r prif opsiynau sydd ar gael.
