Y Daith
Mae eich cam yn y daith dyfu – boed yn cychwyn, yn ehangu, neu’n cydgrynhoi – yn pennu pa opsiynau ariannu sy’n briodol ar gyfer eich anghenion. Yn aml, mae angen atebion ariannol wedi’u teilwra ar dyfwyr bwyd ar raddfa fach i fynd i’r afael â heriau penodol fel amrywiadau llif arian tymhorol, mynediad at dir, neu fuddsoddi mewn offer.
Mae’r ddogfen hon yn nodi ac yn egluro’r camau allweddol i dyfwyr, o ddatblygu model neu gynnal ymchwil marchnad, i weithrediadau cynaliadwy drwy gydol y flwyddyn.
