Ymyriadau

Os ydych chi mewn sefyllfa i fynd y tu hwnt i’r “enillion cyflym” a drafodir yn y dogfennau yn adran gyntaf y deunyddiau hyn, yna mae’r canllaw hwn yn rhoi trosolwg o rai o’r ymyriadau mwy arwyddocaol y gallwch eu hystyried i gynyddu effeithlonrwydd ynni eich adeilad a lleihau eich costau ynni.

Ar gyfer pob ymyrraeth, rydym yn cynnig disgrifiad o’r hyn a allai fod yn gysylltiedig fel arfer, rhywfaint o wybodaeth sylfaenol am sut a pham mae’r ymyrraeth yn gweithio, syniad bras o bris (yn amodol ar newid, wrth gwrs) a’r hyn y gallech ei arbed yn y tymor hwy.

Lefel y Dysgwr: Canolradd