
Egin
Mae Egin yn rhaglen sydd â’r nod o ddatgloi grym cyfunol cymunedau yng Nghymru i gymryd eu camau cyntaf tuag at fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd a byw’n fwy cynaliadwy – yn enwedig y rhai sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan newid hinsawdd. Gall grwpiau gael mynediad at gyngor, mentora a chymorth grant.
Mae Egin yn cael ei ariannu gan Gynllun Asedau Segur a weinyddir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Cronfa Perchnogaeth Gymunedol
Mae perchnogaeth gymunedol yn rhoi rheolaeth i bobl leol dros yr adeiladau a’r gofodau sydd o bwys iddynt a bod y mannau hyn yn cael eu defnyddio mewn ffyrdd sy’n bodloni blaenoriaethau ac anghenion y gymuned leol.
Mae CYD Cymru yn helpu darpar ymgeiswyr yng Nghymru i ddatblygu eu cynigion prosiect a gwneud cais i Gronfa Perchnogaeth Gymunedol y DU.
Mae’r Rhaglen COF wedi’i gohirio ar hyn o bryd ac rydym yn aros am ddiweddariadau yn dilyn yr Etholiad Cyffredinol ar Orffennaf 4ydd.


Sero Net
Rydym yn cyflwyno’r rhaglen Sero Net fel rhan o Busnes Cymdeithasol Cymru, gan helpu mentrau cymdeithasol i gyrraedd eu nodau cynaliadwyedd.
Gallwn ddarparu cymorth arbenigol a mynediad at gyllid i helpu i ddatgloi eich uchelgeisiau cynaliadwyedd drwy adeiladu gwasanaethau ynni; cyngor tariff; cynllunio gweithredu; cymorth ariannol; arbenigedd technegol; a chymorth rheoli prosiect a gweithredu.
Busnes Cymdeithasol Cymru
Rydym yn cefnogi busnesau newydd a busnesau cymdeithasol sy’n tyfu drwy gysylltu mentrau cymdeithasol yng Nghymru â’n gwasanaeth mentora cymheiriaid helaeth.
Mae busnesau cymdeithasol yn elfen bwysig a deinamig o economi Cymru. Maent yn darparu swyddi da, yn nes at adref, lle mae cymunedau eu hangen. Mae busnesau cymdeithasol yn gweithio’n frwd i fynd i’r afael â materion lleol trwy fasnachu ac yna ail-fuddsoddi’r incwm y maent yn ei ennill yn y pethau sy’n bwysig iddynt.
