Support for communities securing the future of the places that matter

Mae Asedau Ni yn wasanaeth cymorth ledled Cymru sy’n helpu cymunedau i gymryd cyfrifoldeb dros y lleoedd a’r asedau sy’n bwysig iddyn nhw, a’u rheoli – o siopau cymunedol, tafarndai a neuaddau pentref i ganolfannau gofal plant, mannau celfyddydol, tir amaethyddol a choetiroedd.
Mae’r asedau hyn yn fwy na dim ond adeiladau neu dir – maen nhw’n fannau lle mae pobl yn cwrdd, lle mae gwasanaethau’n cael eu darparu ac mae bywyd cymunedol yn digwydd.
Mae Asedau Ni yn dod â chymorth ymarferol, arbenigedd, adnoddau a dysgu ar y cyd at ei gilydd i helpu cymunedau i lywio’r heriau sy’n gysylltiedig â rheoli’r asedau hyn, a’u cadw’n rhan o fywyd lleol am flynyddoedd i ddod.
Cofrestrwch ar gyfer Cymorth Ymarferol
Os ydych chi’n cymryd cyfrifoldeb dros ased lleol neu’n ei reoli ac angen cymorth, anfonwch eich ymholiad atom ni drwy’r ffurflen isod.
Ddim yn siŵr ai Asedau Ni yw’r gwasanaeth iawn i chi? Anfonwch e-bost at communityassets@dtawales.org.uk – byddwn ni’n hapus i drafod hyn gyda ch
Asedau Ni – Llyfrgell Adnoddau
Mynediad at lyfrgell gynyddol o offer ymarferol, canllawiau ac adnoddau i gefnogi cymunedau ar bob cam o gymryd cyfrifoldeb dros asedau lleol a’u rheoli – gan ddod â’r wybodaeth a’r arbenigedd sydd eu hangen arnoch at ei gilydd mewn un lle.
A allai Asedau Ni helpu eich cymuned?
Gall Asedau Ni eich cefnogi os yw eich cymuned:
Yn ystyried cymryd cyfrifoldeb dros ased ac eisiau deall beth sydd ynghlwm â hynny
Yn y broses o gymryd cyfrifoldeb dros ased ac angen cymorth ymarferol a chyngor arbenigol
Yn rheoli ased cymunedol ac yn chwilio am ffyrdd o sicrhau ei gynaliadwyedd yn y tymor hir
Yn wynebu her benodol gyda’ch ased cymunedol
Eisiau dysgu gan gymunedau eraill sydd â phrofiad o gymryd cyfrifoldeb dros ased neu ei reoli
Canolfan cymorth ar gyfer asedau cymunedol – adnoddau, arbenigedd a rhwydwaith, i gyd mewn un lle
Llyfrgell o adnoddau sy’n tyfu
Mynediad at offer ymarferol, canllawiau ac adnoddau sy’n cwmpasu gwahanol gamau taith ased cymunedol.
Digwyddiadau, cysylltiadau a dysgu
Cymerwch ran mewn digwyddiadau, gweithdai a chyfleoedd dysgu sydd wedi’u cynllunio i ddatblygu gwybodaeth, rhannu profiadau a mynd i’r afael â heriau cyffredin. Edrychwch ar y digwyddiadau sydd ar y gweill yma.
Cyfeirio a chymorth arbenigol
Cael cymorth ymarferol ac arbenigedd gan ein tîm i’ch helpu i lywio’r heriau sy’n codi wrth gymryd cyfrifoldeb dros ased cymunedol a’i reoli.
Rheoli cyfleusterau
Cael mynediad at ganllawiau ymarferol, adnoddau, digwyddiadau a chyfleoedd dysgu am reoli a chynnal adeiladau cymunedol, gan fanteisio ar arbenigedd ein Rheolwr Cyfleusterau penodedig.
Ar y Cyd – Cymuned Ar-lein
(Yn dod yn fuan!) Llwyfan ar gyfer gweithredu cymunedol, ysbrydoliaeth ac ymgysylltu. Cysylltwch ag eraill ar-lein a gweithredwch yn lleol.
Cymunedau’n dysgu gan gymunedau
Mae cymunedau ledled Cymru eisoes yn cymryd cyfrifoldeb dros asedau lleol, yn eu rheoli ac yn datblygu atebion ymarferol i’r heriau maen nhw’n eu hwynebu. Mae Asedau Ni yn creu cyfleoedd i gymunedau gydweithio – gan rannu profiadau, cysylltu ag eraill sy’n wynebu heriau tebyg a dysgu o’r hyn sydd wedi gweithio, a’r hyn sydd heb weithio.
Drwy ddod â’r wybodaeth a’r profiadau hyn at ei gilydd, gallwn helpu cymunedau i fagu hyder, dod o hyd i syniadau newydd a chadw mwy o werth yn lleol.
Ble bynnag rydych chi ar eich taith gydag ased cymunedol, gall Asedau Ni eich cefnogi drwy’r broses gyfan – o’r syniad cychwynnol hyd at wneud y gwaith o’i reoli a’r prosesau cysylltiedig yn gynaliadwy o fewn y gymuned.
Adnabod yr Ased
Darganfod beth sydd ynghlwm
Cymryd yr ased ymlaen
Ei reoli
Ei wneud yn gynaliadwy
O Argymhelliad i Weithredu
Mae Asedau Ni yn ymateb ymarferol i argymhellion Comisiwn Asedau Cymunedol, sydd wedi galw am ‘Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer Asedau Cymunedol’ er mwyn gwella arferion, cefnogi dysgu a dod ag arbenigedd o’r sectorau cyhoeddus, preifat a thrydydd sector at ei gilydd.
Mae’r angen am y math hwn o gymorth cydgysylltiedig hefyd wedi’i amlygu gan ymchwil gan Sefydliad Materion Cymreig (IWA), a fu’n edrych ar y rhwystrau sy’n wynebu cymunedau wrth geisio cael mynediad at dir ac asedau lleol a’u rheoli, ac a nododd fod gwell cyngor a chanllawiau yn rhan o’r ateb.
Mae Asedau Ni yn troi’r uchelgais hon yn ymarfer drwy ddarparu canolfan gymorth ledled Cymru sy’n dod â chymorth ymarferol ac arbenigedd, adnoddau, a chyfleoedd i gymunedau ddysgu oddi wrth ei gilydd at ei gilydd – gan helpu cymunedau i lywio’r heriau sy’n codi wrth gymryd cyfrifoldeb dros asedau lleol a’u rheoli.
Asedau Ni – yn cael ei gyflwyno mewn partneriaeth
Mae Asedau Ni yn cael ei ariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a’i arwain gan CYD Cymru. Mae’r rhaglen yn dod ag arbenigedd a phrofiad ategol CYD Cymru, Ymddiriedolaeth Adfywio Meysydd Glo, Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau a Sefydliad Materion Cymreig at ei gilydd i ddarparu gwasanaeth cydgysylltiedig i gymunedau ledled Cymru.

