Mae’r gweithdy hwn yn rhan o gyfres “Un i Lawer” Busnes Cymdeithasol Cymru.
Dyddiad: 11/11/2026
Amser: 12:30 – 14:00
Lleoliad: Ar Zoom (cofrestrwch gan ddefnyddio’r ffurflen isod!)
Mae’r gweithdy hwn yn archwilio sut y gall mentrau cymdeithasol lunio eu dyfodol drwy gymryd perchnogaeth o adeiladau a thir lleol i greu buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol parhaol. Gan ddefnyddio enghreifftiau ymarferol a phrofiadau grwpiau sydd wedi bod ar yr un siwrnai, bydd yn edrych ar pam mae perchnogaeth leol yn bwysig, beth sy’n gwneud ased yn hyfyw, a sut y gall asedau gefnogi mentrau cymunedol. Bydd hefyd yn trafod y prif risgiau, yr heriau llywodraethu, a’r camau ymarferol sy’n helpu grwpiau i symud o syniad i berchnogaeth lawn.