Deall Eich Arolwg Ynni
Gall arolygon ynni ddarparu llawer iawn o wybodaeth ddefnyddiol — ond gall gwybod ble i ddechrau, beth i’w flaenoriaethu, a sut i droi argymhellion yn gamau gweithredu weithiau deimlo’n llethol.
Bydd y sesiwn hon yn archwilio sut i wneud y mwyaf o’ch adroddiad arolwg ynni, gan gynnwys sut y gall gefnogi ceisiadau grant, cyfleoedd ariannu, a chynllunio tymor hir ar gyfer eich adeilad. Byddwn hefyd yn edrych ar sut i flaenoriaethu gwahanol fesurau a throi argymhellion technegol yn gynllun gwella ymarferol, cam wrth gam.
Gan dynnu ar brofiad go iawn o waith arolygon ynni cymunedol yng Nghymru, bydd y sesiwn yn cynnig arweiniad ymarferol, mewnwelediadau defnyddiol, a chyfle i drafod heriau a chyfleoedd cyffredin ar gyfer adeiladau cymunedol
Cofrestrwch gan ddefnyddio’r ffurflen isod a byddwn yn anfon dolen zoom atoch.