Cynhadledd Gwanwyn 2026 CYD Cymru

Ymunwch â ni ar gyfer Cynhadledd Gwanwyn 2026 Cymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru (CYD Cymru) ym Marchnad Casnewydd.

Bydd grwpiau cymunedol, ymddiriedolaethau a mentrau cymdeithasol o bob rhan o Gymru yn dod ynghyd i rwydweithio, cymdeithasu, cymryd rhan mewn gweithdai a thrafod sut y gallwn fynd â grym cymunedol yng Nghymru i’r lefel nesaf.

Mae archebion bellach ar agor! Mae tocynnau AM DDIM i aelodau CYD Cymru (a gallwch ymuno fel aelod Rhwydwaith am ddim yma).

Bydd gweithdai a sesiynau yn cynnwys pynciau megis:

  • Lleihau defnydd ynni a chostau ar gyfer adeiladau sy’n eiddo i’r gymuned
  • Strategaeth ariannu a thechnegau ysgrifennu ceisiadau i wella llwyddiant cyllido
  • Creu cyfleoedd cyflogaeth i bobl ag anableddau
  • Rheoli cyfleusterau – bod yn berchen ar adeilad cymunedol a/neu ei reoli
  • Ymgysylltu â’r gymuned – cadw eich grŵp wedi’i wreiddio yn y gymuned, a llunio strategaethau a cheisiadau cyllido sy’n adlewyrchu hyn.

Welwch ein rhaglen am y diwrnod!

Welwch yma!

Mae cinio llysieuol a lluniaeth wedi’u cynnwys gyda’ch tocyn.

Oherwydd nam technegol – mae’r system archebu ar ein gwefan Gymreig i lawr – ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra ac gofynnwn yn garedig i chi archebu trwy’r dudalen Saesneg yma.

Nodyn: digwyddiad wedi’i gymhorthdalu yw hwn, a byddwn yn darparu arlwyo. Os byddwch yn methu â mynychu ar ôl archebu tocyn, sicrhewch eich bod yn rhoi gwybod i ni ac yn canslo’ch lle er mwyn atal gwastraff bwyd neu gyllid.

Cefnogir y digwyddiad hwn gan Raglen Connectors UK. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae Locality UK wedi derbyn bron i £1.9 miliwn dros dair blynedd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, y cyllidwr cymunedol mwyaf yn y DU. Bydd y cyllid yn cefnogi rhaglen Connectors UK, a gyflwynir mewn partneriaeth â DTA Scotland, CYD Cymru a DT Northern Ireland. Trwy’r rhaglen, byddwn yn dod â sefydliadau cymunedol lleol ynghyd i feithrin gwydnwch, rhannu arfer arloesol a siapio dyfodol eu cymunedau.

Cynhadledd Gwanwyn 2026 CYD Cymru

When

Mawrth 24, 2026    
10:00 am - 4:30 pm

Bookings

Bookings closed

Where

Newport Market
High St, Newport, NP20 1FX

Event Type

Digwyddiadau CYD Cymru

Bookings

Bookings are closed for this event.