Cynhadledd Hydref CYD Cymru 2026

Cynhadledd Hydref CYD Cymru 2026

MAE’R COFRESTRU AR AGOR! Sgroliwch i lawr i archebu eich lle gan ddefnyddio’r ffurflen gofrestru.

Ymunwch â ni ar gyfer Cynhadledd Hydref CYD Cymru yn Tŷ Pawb, Wrecsam.

Bydd grwpiau cymunedol, ymddiriedolaethau a mentrau cymdeithasol o bob rhan o Gymru yn dod ynghyd i rwydweithio, cymdeithasu, cymryd rhan mewn gweithdai a thrafod sut y gallwn fynd â grym cymunedau yng Nghymru i’r lefel nesaf.

Bydd tocynnau’n AM DDIM i aelodau CYD Cymru (a gallwch ymuno fel aelod Rhwydwaith am ddim yma).

Beth allwch chi ei ddisgwyl ar y diwrnod? Llawer o weithdai ymarferol, trafodaeth banel, sylw i grwpiau lleol sy’n gwneud gwaith gwych yn yr ardal, a chyfle i siarad wyneb yn wyneb â chyllidwyr yn ein stondinau cyllidwyr.

Mae’r pynciau’n cynnwys…

  • Lliniaru llifogydd a chydnerthedd cymunedol – ffyrdd ymarferol y gall cymunedau liniaru llifogydd, lleihau risg a meithrin cydnerthedd hirdymor.
  • Perchnogaeth a rheolaeth asedau cymunedol – cyflwyno Asedau Ni, ein rhaglen sy’n cefnogi cymunedau ledled Cymru i gymryd cyfrifoldeb dros, diogelu a rheoli’r asedau sy’n bwysig iddynt.
  • Cyllid i grwpiau cymunedol – strategaethau a thechnegau ysgrifennu ceisiadau i wella’ch siawns o sicrhau cyllid i’ch mudiad cymunedol.
  • Ymgysylltu ystyrlon â chymunedau – sut y gall deall lle, hunaniaeth ac iaith helpu i feithrin cysylltiadau cryfach â chymunedau Cymru.
  • Mesur effaith a dangos gwerth – darganfyddwch offer syml i fesur llwyddiant a dangos y gwahaniaeth rydych chi’n ei wneud.

Edrychwch ar y rhaglen lawn!

Nodyn: digwyddiad â chymhorthdal yw hwn, a byddwn yn darparu bwyd a diod. Os byddwch yn darganfod na allwch fynychu ar ôl archeb

Cynhadledd Hydref CYD Cymru 2026

When

Hydref 20, 2026    
10:00 am - 4:30 pm

Where

Ty Pawb
Market St, Wrexham , LL13 8BB

Event Type

Digwyddiadau CYD Cymru