Mae yna lawer o ffyrdd o gynhesu adeilad cymunedol: boeleri nwy ac olew, gwresogyddion trydan, pympiau gwres a gwresogyddion is-goch.
Beth yw manteision ac anfanteision gwahanol systemau gwresogi?
Sut mae’r costau rhedeg yn cymharu rhwng mathau wahanol o wresogi?
A sut mae ein dewis o system wresogi yn effeithio ar allyriadau carbon?
Ymunwch â ni ar y 10fed o Chwefror am sesiwn wybodaeth lle byddwn yn archwilio’r gwahanol ddulliau o gynhesu eich adeilad cymunedol. Byddai’r sesiwn hon o ddiddordeb i grwpiau sydd â diddordeb mewn datgarboneiddio eu gweithrediadau, neu grwpiau sy’n edrych i dorri costau, neu grwpiau â boeler hen sydd angen ei newid a sydd â diddordeb mewn darganfod pa opsiynau sydd ar gael ar gyfer uwchraddio eu system gwresogi.
Lle? Zoom: https://us02web.zoom.us/meeting/register/rjueRpU8R1KqR1RYaQWLMQ
Pryd? 13:00 – 14:00
Pa dyddiad? 10 Chwefror, 2026