Dyddiad: 09/12/2026
Amser: 12:30 – 14:00
Lleoliad: Ar Zoom (cofrestrwch gan ddefnyddio’r ffurflen isod!)
Mae rhedeg ymddiriedolaeth ddatblygu, menter gymdeithasol neu grŵp cymunedol yn aml yn golygu gwisgo a chydbwyso llawer o hetiau ar yr un pryd, gyda Adnoddau Dynol (AD) yn un ohonynt.
Ar hyn o bryd, rydym yn mynd drwy un o’r newidiadau mwyaf i fyd cyflogaeth yn y blynyddoedd diwethaf. Bydd STEP HR – cwmni sy’n arbenigo mewn cefnogi sefydliadau’r trydydd sector a busnesau bach – yn ymuno â ni i drafod effaith ymarferol y newidiadau hyn ar ein haelodau sy’n gyflogwyr. Bydd hyn yn rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i ddiweddaru contractau, polisïau a phrosesau lle bo angen.
Bydd STEP HR hefyd yn egluro pa wasanaethau sydd ar gael i’n haelodau fel rhan o’r 90 munud o gymorth AD am ddim sydd ar gael i bob aelod Essentials CYD Cymru, gan gynnwys adolygu polisïau, rhoi cyngor ar anghydfodau neu ddarparu contractau enghreifftiol.